Bethan Gwenllian
Bethan Gwenllian sydd yn trafod etholiadau arlywyddol diweddar y wlad …
Ar ôl yr etholiad arlywyddol yn Nigeria’r wythnos diwetha’ fe enillodd Muhammadu Buhari, ymgeisydd o’r blaid All Progressive Congress (APC), gyda 53.96% o’r bleidlais.
Llwyddodd Muhammadu Buhari i gipio pŵer oddi ar y cyn-arlywydd Goodluck Jonathan a fu’n llywodraethu ers 2010 dros Blaid Ddemocrataidd y Bobol (People’s Democratic Party, PDP).
Fe gynhaliwyd etholiad arlywyddol Nigeria’r wythnos ddiwethaf, ar ôl iddo gael ei ohirio o fis Chwefror tan 28 Mawrth oherwydd gwrthryfelwyr Boko Haram a oedd yn bygwth y wlad, yn enwedig rhanbarth y gogledd-ddwyrain.
Democratiaeth fwy aeddfed?
Nigeria yw gwald fwyaf poblog Affrica a daeth canlyniad yr etholiad yn sioc i lawer. Yn enwedig felly gan mai dyma’r etholiad cynta’ lle mae arlywydd y dydd wedi cael ei ddisodli.
Mae canlyniad yr etholiad yn codi llawer o gwestiynau am ddyfodol gwleidyddol y wlad – o ran pŵer yr arlywydd, yr ymateb i’r sefyllfa gyda Boko Haram, a hefyd a fydd y wlad a’i gwleidyddion yn llai llygredig o hyn ymlaen.
Fe enillodd Nigeria ei hannibyniaeth yn 1960 ond, ers hynny, mae wedi cael llywodraethau drwy etholiadau democrataidd ac unbennaeth filwrol bob yn ail. Etholiad arlywyddol 2011 oedd y cynta’ i gael ei gydnabod yn un rhydd a theg.
Yn ei anerchiad a gafodd ei ddarlledu ar ôl clywed y canlyniad, fe ddywedodd Muhammadu Buhari bod “y bobol wedi dangos eu cariad tuag at eu cenedl a’u cred tuag at ddemocratiaeth”.
Mae canlyniad yr etholiad yn rhoi cyfle i’r wlad ddangos ei bod yn cymryd democratiaeth o ddifri – os bydd y pŵer yn gallu cael ei drosglwyddo mewn ffordd heddychlon – gydag Ysgrifennydd Cyffredinol Y Cenhedloedd Unedig yn credu bod y canlyniad yn “brawf o aeddfedrwydd democratiaeth Nigeria”.
Goodluck yn colli ffydd
Goodluck Jonathan, felly, yw’r unig arlywydd i golli etholiad – prawf o ddiffyg cefnogaeth y boblogaeth i lywodraeth y PDP ar ôl iddyn nhw fethu â delio â bygythiad Boko Haram ac oherwydd llygredd y llywodraeth a’r gwleidyddion.
Mae Nigeria yn wlad sy’n elwa o adnoddau olew gyda 95% o’u refeniw allforio yn dod o’r sector olew.
Cynigiodd y cyfoeth olew gyfle i’r llywodraeth ailddosbarthu cyfoeth y wlad, ond mae llawer yn dweud nad yw arian yr olew wedi cael ei ddosbarthu mewn ffordd gyfiawn ond wedi ychwanegu at gyfoeth dosbarth cyfoethoca’r wlad.
Yn yr ymgyrch arlywyddol, fe welodd y wlad bod Muhammadu Buhari yn sefyll yn gadarn yn erbyn llygredd ac yn erbyn diffygion yr hen lywodraeth wrth ddatrys problem Boko Haram.
Fe fyddai llai o lygredd yn y llywodraeth yn galluogi economi’r wlad i dyfu gan ei fod yn lleihau cost busnesau, yn enwedig busnesau bychain, a hynny’n rhoi cyfle i fwy o ardaloedd cefn gwlad ddod yn rhan o’r economi, yn lle bod ar wahân.
Disgwyl newid
Ar ôl putsch yn 1983, fe reolodd Muhammadu Buhari am 20 mis ac ers hynny mae wedi cystadlu yn yr etholiadau arlywyddol bedair gwaith.
Mae’n debyg mai ei hanes milwrol oedd un o elfennau ei ymgyrch a ddenodd bleidleisiau llawer o’r wlad gan eu bod yn credu ei fod yn gallu gwneud llawer mwy na Goodluck Jonathan i frwydro yn erbyn Boko Haram.
Mae llawer o bobol ifanc y wlad hefyd yn credu bod canlyniad yr etholiad yn mynd i wella eu dyfodol gan newid eu sefyllfa drwy addo mwy o ddiogelwch, addysg, isadeiledd a chyflenwadau dŵr.
Mae’r canlyniad yn dangos cymaint y mae’r wlad wedi datblygu ers ei hannibyniaeth ac ers y trawsnewid at ddemocratiaeth yn ystod y 90au.
Mae’r ffaith bod Muhammadu Buhari wedi gallu ennill yr etholiad yn dangos bod pobol Nigeria yn galw am newid ac yn disgwyl i Muhammed Buhari chwarae ei ran fel arlywydd.
Os na fydd yn gwneud hynny, mae’r boblogaeth nawr yn gwybod bod ganddyn nhw ddigon o ddylanwad i newid dyfodol y wlad.