Ardal y ddamwain (PA)
Mae’n ymddangos fod y cydbeilot a yrrodd awyren Germanwings i ochr mynydd wedi bod yn chwilio’r We am ddulliau hunanladdiad.
Yn ôl ymchwilwyr yn yr Almaen, roedd hefyd wedi bod yn ymchwilio i drefniadau diogelwch drysau cocpit – roedd cloi capten yr awyren allan wrth achosi’r lladdfa.
Roedd hanes y chwilio ar lechen electronig Andreas Lubitz yn ei fflat yn ninas Dusseldorf, sy’n dangos fod y peilot wedi chwilio termau perthnasol ar y We rhwng Mawrth 16 a Mawrth 23.
Dyna’r dyddiau cyn iddo ladd ei hun a 149 o bobol eraill trwy wneud i’r awyren daro’r ddaear.
Dywedodd llefarydd ar ran y erlynydd Ralf Herrenbrueck fod Lubitz wedi chwilio ar y We fydeang gan ddefnyddio termau fel ‘triniaeth feddygol’ a ‘dulliau hunanladdiad’.