Owen Sheers - swydd unigryw (Ben Priddy Photography CCA 2.0)
Mae’r dramodydd, y nofelydd a’r bardd Owen Sheers wedi cael ei benodi i swydd newydd yn Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ôl Adran Gelfyddydol y Brifysgol, dyma’r swydd gyntaf o’i bath yng ngwledydd Prydain ac fe fydd Owen Sheers yn cychwyn yn ei waith fis nesa’.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd y bardd mai diben y swydd yw pontio gwaith y brifysgol â’r gymuned gan feithrin creadigrwydd ymysg staff a’r cyhoedd.

Fe fydd y gwaith yn croesi ffiniau’r celfyddydau, o theatre i lenyddiaeth ac arddangosfeydd a ffilmiau.

‘Cyfnod cyffrous’

“Mae Abertawe ynghanol cyfnod pwysig iawn ar hyn o bryd; maen nhw’n adeiladu campws newydd yr ochr arall i’r dref, ac mae hi’n swydd sydd, mewn ffordd, wedi tyfu o hynny,” meddai Owen Sheers.

“Beth wnaeth fy nenu fwyaf oedd ei bod yn ffordd o gyhoeddi beth mae’r brifysgol yn ei wneud – mae pob prifysgol yn drysorfa o straeon, syniadau ac ymchwil blaenllaw ac mae angen trosglwyddo hynny i’r gymuned ehangach.

“Megis dechrau ydan ni hefo’r swydd hon, ac mae hi i raddau yn camu i mewn i’r anhysbys ond i mi  dyma sy’n ei wneud yn gyffrous.”

Stori: Gwenllian Elias