Leanne Wood
Mae Plaid Cymru’n dweud bod ganddyn nhw gyfle heno i gael lle yng nghanol y llwyfan gwleidyddol gyda’r ddadl fawr deledu rhwng arweinwyr saith plaid.

Fe fydd arweinydd y blaid, Leanne Wood, yn cymryd ei lle yn stiwdios ITV ochr yn ochr â’r arweinwyr eraill, gan gynnwys y Prif Weinidog David Cameron ac arweinydd y Blaid Lafur, Ed Milliband.

Fe fydd arweinwyr plaid genedlaethol yr Alban, yr SNP, yno hefyd ac arweinwyr y Gwyrddion ac UKIP.

Ond mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, eisoes wedi anfon blog i wefan yr Huffington Post yn dadlau mai Llafur yw gwir lais Cymru.

‘Niwed enbyd’

Fe fydd Leanne Wood yn cymryd y cyfle i ddadlau tros gydraddoldeb rhwng yr Alban a Chymru ac yn erbyn polisïau cyni y ddwy blaid fawr.

“Mi fydd yn dweud wrth arweinyddion pleidiau San Steffan bod y toriadau llym a osodwyd ganddyn nhw, o Fôn i Flaenau Gwent, wedi achosi niwed enbyd i deuluoedd ym mhob rhan o Gymru,” meddai AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth.

Y disgwyl yw y bydd pob un o’r arweinwyr yn cael munud i ymateb i bob pwnc – yr economi, materion tramor, mewnfudo a dyfodol y Deyrnas Unedig – gyda thrafodaeth wedyn yn cynnwys y gynulleidfa.

Sŵn neu synnwyr?

Yn ôl y beirniaid, fydd y fformat ddim yn rhoi llawer o gyfle i neb gan arwain at fwy o sŵn na synnwyr ond mae’r digwyddiad hefyd yn cael ei weld yn gyfle – ac yn her – mawr i Leanne Wood.

Ar ôl blynyddoedd o gwyno nad yw materion Cymreig na Phlaid Cymru’n cael digon o sylw, fe fydd craffu mawr ar ei pherfformiad heno.