Catrin Williams
Catrin Williams sydd yn anghytuno â chynlluniau’r darlledwyr ar gyfer dadleuon teledu …
Rhydd i bawb eu barn mewn gwlad ddemocrataidd, yn ôl y sôn – felly pam nad yw hynny yn wir am y cyfryngau ‘Prydeinig’?
Efallai wir fod y cliw yn y ffaith mai cyfryngau ‘Prydeinig’ ydynt – cyfryngau San Steffan.
Yn ddiweddar fe gyhoeddodd y BBC, ITV, Sky News a Channel 4 eu cynlluniau ar gyfer dadleuon i’w darlledu yn ystod cyfnod ymgyrchu’r etholiad cyffredinol nesaf.
Wrth i’r trend Americanaidd yma barhau ym Mhrydain mae hyd yn oed mwy o bwyslais ar arweinwyr pleidiau rŵan.
UKIP yn cael ei chynnwys!
Wrth gwrs, y pleidiau a gafodd eu cynnwys yn y cynlluniau yma yw’r Torïaid, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol ac er syndod mawr i lawer, UKIP!
Efallai fod UKIP yn honni y bydd yn fuan y drydedd blaid fwyaf ym Mhrydain ac yn maeddu ffigyrau aelodaeth Clegg a’i griw, ond mae’r ffigyrau yn dweud yn wahanol.
37,000 o aelodau sydd gan UKIP, medden nhw, ond o’i gymharu â 100,000 yr SNP gallwn weld fod lot o ffordd i fynd eto gan UKIP.
Pam ddim cynnwys yr SNP?
Felly pam nad yw plaid fel yr SNP, sydd gyda chymaint o aelodau, yn cael cymryd rhan yn y dadleuon yma fydd yn cael eu darlledu?
Unwaith eto, gallwn weld San Steffan yn rheoli’r cyfryngau, ac yn ceisio sicrhau fod yr Albanwyr a’r Cymry yn cael eu cadw yn eu lle.
Mae dogfen hynod ddiddorol ynglŷn â ffigyrau pleidiau gwleidyddol Prydain, newydd ei gyhoeddi gan Dŷ’r Cyffredin.
Er hyn, gall neb ddadlau yn erbyn poblogrwydd Nigel Farage fel arweinydd – y ‘Farage effect’ fel yr oedd Panorama yn ei honni.
Awgryma hyn fod San Steffan felly yn ceisio chwarae gêm gyda UKIP, wrth iddynt herio Farage i ddadl ar y teledu.
Beth am Blaid Cymru?
Mae rhai hefyd yn galw ar i Blaid Cymru gael rhyw ran mewn dadl deledu o’r fath, gyda thrydariad gan Leanne Wood, yn gofyn a yw’n wrth-ddemocrataidd i atal Plaid Cymru, SNP a’r Blaid Werdd rhag cymryd rhan mewn unrhyw fath o ddadleuon teledu, yn cael ei rannu dros fil o weithiau.
Mae hyd yn oed deiseb ar-lein ar gael nawr yn gofyn i’r prif sianeli teledu gynnwys yr holl bleidiau gwleidyddol yn eu dadleuon teledu, nid yn unig er lles gwybodaeth i’r cyhoedd, ond er lles democratiaeth hefyd.
Efallai ei fod braidd yn afresymol ceisio sicrhau fod yr holl bleidiau gwleidyddol yn cael eu cynnwys yn y dadleuon yma, gyda’r cwestiwn ble fyddai’r llinell derfyn yn cael ei thynnu?
Ond mae’r ffaith fod UKIP wedi cael ei gynnwys, pan fod nifer aelodaeth pleidiau eraill yn fwy, a bod mwy o Aelodau Seneddol gan bleidiau eraill ym Mhrydain, wedi cythruddo llawer.
Annhegwch pur yw hyn, ac unwaith eto yn enghraifft o sut mae San Steffan yn gweld pwysigrwydd cadw ardaloedd datganoledig Prydain yn eu lle.
Sylw yn y wasg
Mae’r cwynion wedi cael rhyw fath o sylw yn y wasg, wrth i lawer o bleidiau eraill Prydain honni fod hyn yn annemocrataidd, ac yn ymdrech arall i wthio gwleidyddiaeth sydd ddim yn berthnasol i lawer o Brydain i wynebau’r cyhoedd.
Yr un hen stori ydi hi cyn belled fod yr SNP a Phlaid Cymru dan sylw. Cael eu sathru unwaith yn rhagor gan bropaganda unochrog San Steffan, a hynny er mwyn sicrhau nad yw’r pleidiau yn dod yn rhy boblogaidd – ac felly yn codi momentwm.
Ond, rhaid cofio fod nifer aelodaeth yr SNP wedi cynyddu yn syfrdanol yn dilyn methiant y refferendwm – gallwn ond gobeithio fod hyn yn cael ei adlewyrchu yng nghanlyniad yr etholiad cyffredinol.