A ddylai Ched Evans gael gwisgo crys Cymru eto?
Fe fydd Ched Evans yn cael ei ryddhau o’r carchar fory ar ôl treulio dros ddwy flynedd dan glo o’i ddedfryd o bum mlynedd am dreisio dynes yn 2011.
Ond tra bod ei gyfnod yn y carchar yn dirwyn i ben, megis dechrau mae’r drafodaeth ynglŷn â gyrfa’r cyn-beldroediwr unwaith y bydd ei draed yn rhydd.
Cafodd Evans ei ganfod yn euog yn 2012 o dreisio dynes 19 mewn gwesty yn y Rhyl, ar ôl i’r rheithgor ddyfarnu fod y ddynes yn rhy feddw i allu rhoi caniatâd iddo gael rhyw â hi.
Ond mae ef wastad wedi mynnu’i fod yn ddieuog, ac yn ddiweddar fe ailddechreuodd y broses o apelio i geisio clirio’i enw.
Mae’r Cymro nawr yn gobeithio ailafael yn ei yrfa bêl-droed, ac fe allai hynny olygu’i fod mewn sefyllfa i gael ei ddewis i chwarae dros ei wlad o fewn ychydig fisoedd.
Ond a ddylai Evans gael yr hawl i wneud hynny yn y dyfodol, o ystyried y drosedd y mae’n euog ohoni?
Dadl danllyd
Dros y misoedd diwethaf mae’r dadlau wedi bod yn danllyd ar y ddwy ochr ynglŷn â dyfodol Ched Evans pan mae’n cael ei ryddhau.
Mae ei deulu a’i gariad Natasha Massey, sydd wedi aros ag ef drwy gydol y cyfnod yn y carchar, yn mynnu’i fod yn haeddu’r cyfle i ailgydio’n ei yrfa, ble bu’n ymosodwr llwyddiannus iawn â Sheffield United cyn cael ei garcharu.
Mynnodd pennaeth y Gymdeithas Bêl-droedwyr Proffesiynol, Gordon Taylor, nad oes unrhyw ddeddf yn stopio Evans rhag cael gwaith unwaith y mae’n rhydd, ac na fyddai pobl yn ceisio atal adeiladwr neu fanciwr rhag dychwelyd i’w swydd dan yr un amgylchiadau.
Yn ddiweddar fe ymddiheurodd y gyflwynwraig deledu Judy Finnigan am ‘ddewis ei geiriau’n wael’ ar ôl trafod y mater ar y rhaglen Loose Women, ond ers hynny mae’i gŵr Richard Maddeley wedi gorfod rhybuddio pobl sydd wedi bod yn anfon negeseuon sarhaus i’w merch.
Ar y llaw arall, mae ymgyrchwyr yn erbyn trais wedi rhybuddio y byddai gadael i Evans ddychwelyd i yrfa bêl-droed, ble mae’n rôl fodel ac yn cael ei dalu’n dda, yn anfon y neges anghywir.
Fe arwyddodd dros 150,000 o bobl ddeiseb ar y we yn ddiweddar yn galw ar Sheffield United i beidio â’i ailarwyddo, ac mae rheolwr y clwb Nigel Clough wedi dweud y bydd y perchnogion yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Mae rhai ymgyrchwyr hefyd yn anfodlon ei weld yn dychwelyd gan nad yw erioed wedi cydnabod ei fod yn euog o’r drosedd ac edifar.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg hefyd y byddai’n rhaid ‘ystyried yn ddwys’ cyn gadael i Ched Evans chwarae’n broffesiynol unwaith eto.
Beth am Gymru?
Felly beth am Gymru? Mae’n bur bosib, os nad yw Sheffield United yn penderfynu arwyddo’r ymosodwr, y bydd clwb arall yn penderfynu rhoi cyfle i Evans yn hwyr neu’n hwyrach.
Petai hynny’n digwydd ac Evans yn dechrau sgorio’n rheolaidd unwaith eto, mae’n anochel y byddai’r galw yn cynyddu ar iddo gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru yn enwedig o gofio’r diffyg ymosodwyr eraill sydd ar gael.
Ond a ddylai Evans allu cael ei ddewis i’r tîm cenedlaethol o dan yr amgylchiadau hynny? Fe fynnodd rheolwr Cymru Chris Coleman eto’n ddiweddar fod yn rhaid iddo siarad â’r Gymdeithas Bêl-droed cyn gwneud penderfyniad, ac nad yw hynny wedi digwydd eto.
Oes yna wahaniaeth rhwng gadael i rywun sydd yn euog o dreisio chwarae dros glwb, a chwarae dros wlad? Wedi’r cyfan, mae chwarae i glwb yn ‘swydd’ dydd i ddydd, fel petai, ond braint yw cynrychioli’ch gwlad mewn chwaraeon.
Neu a yw Evans eisoes wedi cael ei gosbi, ac y dylai nawr fod â’r hawl i wisgo’r crys coch unwaith eto petai’r cyfle’n codi?