Ched Evans
Fe ddylai perchnogion Sheffield United “ystyried yn ddwys” cyn penderfynu a fyddan nhw’n caniatáu i Ched Evans chwarae iddyn nhw eto, meddai Nick Clegg.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, sy’n AS Sheffield, wedi dweud bod peldroedwyr yn cael dylanwad mawr ar blant a phobl ifainc sy’n eu gweld fel “arwyr” ac y dylai hynny fod yn ystyriaeth i berchnogion y clwb drafod y sefyllfa.

Cafodd Ched Evans, ymosodwr Cymru a Sheffield United, ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar yn 2012 am dreisio merch 19 oed mewn gwesty yn Y Rhyl.

Roedd Evans, 25, wedi gwadu’r cyhuddiad ond fe’i cafwyd yn euog yn Llys y Goron Caernarfon.

Mae disgwyl iddo gael ei ryddhau o’r carchar yfory ar ôl treulio dwy flynedd a hanner dan glo.

Mae bron i 150,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn annog y clwb i beidio â chaniatáu iddo ddychwelyd.

Dywedodd rheolwr Sheffield United, Nigel Clough y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan y perchnogion.

Dywedodd Nick Clegg wrth LBC Radio: “Mae fyny i’r clwb benderfynu ond rydw i’n meddwl bod peldroedwyr y dyddiau hyn, maen nhw’n ffigurau cyhoeddus amlwg, ac mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i osod esiampl i bobl eraill.”