Clwb Pel-Droed Abertawe yn gormydeithio drwy'r ddinas ar ol cipio Cwpan Capitol One
Bydd ffilm am ddyrchafiad rhyfeddol clwb pêl-droed Cymreig i uchelfannau’r Uwch Gynghrair yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngogledd Cymru heno.
Mae ‘Jack to a King’ yn adrodd hanes taith Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe o’r adeg y gwerthwyd y clwb am ddim ond £1 i’w ddyrchafiad gwerth £90 miliwn i’r Uwch Gynghrair.
Bydd y ffilm yn cael ei dangos heno (nos Iau) am 7yh ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau ym Mangor a cheir sesiwn holi ac ateb hefyd gyda’r cynhyrchydd Mal Pope.
Dangosir y ffilm mewn cysylltiad â Documentary Wales/Dogfen Cymru. Mae Joanna Wright, darlithydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, yn aelod o’r grŵp llywio.
“Rydym eisiau dangos y ffilm yma oherwydd mae’n fwy na ffilm am bêl-droed yn unig oherwydd mae’n sicr o apelio at ddilynwyr pêl-droed a chynulleidfa fwy cyffredinol. Mae’n sôn am sut y daeth pobl at ei gilydd i achub rhywbeth pwysig i’w cymuned,” meddai.
“Nod Dogfen Cymru ydi cefnogi ffilmiau gan wneuthurwyr ffilmiau o Gymru sy’n ymdrin â materion a themâu Cymreig.”
Cynhaliwyd premiere y ffilm yn sinema’r Empire yn Leicester Square, Llundain ddydd Gwener, 12 Medi.
Y cyfarwyddwr adnabyddus Marc Evans (Hinterland, Patagonia) yw cyfarwyddwr y ffim. Y cynhyrchydd cysylltiol oedd James Marsh sydd wedi ennill Gwobr Academi (Man on Wire), y cynhyrchwyr gweithredol oedd Mal Pope ac Edward Thomas a’r gwneuthurwr rhaglenni dogfen, Gwenllian Hughes.
Y ffilm oedd yr ail fwyaf poblogaidd mewn sinemâu yng Nghymru yn ystod y mis diwethaf. Dywedodd Mal Pope mai hon yn awr oedd y rhaglen ddogfen am bêl-droed sy’n ennill yr incwm mwyaf ym Mhrydain.
Fe’i disgrifiodd fel stori ryfeddol o lwyddiant yn wyneb anawsterau a thlodi’n troi’n gyfoeth mawr.