Ched Evans
Mae rheolwr Sheffield United Nigel Clough wedi dweud mai perchnogion y clwb fydd yn penderfynu a fydd croeso’n ôl i ymosodwr Cymru, Ched Evans.

Cafodd Evans ei garcharu am bum mlynedd yn 2012, wedi i reithgor yn Llys y Goron Caernarfon ei ganfod yn euog o dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn y Rhyl.

Mae disgwyl i Evans gael ei ryddhau o’r carchar ddydd Gwener, wedi iddo dreulio dwy flynedd a hanner dan glo.

Mae hyd at 90,000 o gefnogwyr Sheffield United wedi llofnodi deiseb yn galw ar y clwb i ddiddymu ei gytundeb.

Ond mae’r trafodaethau ynghylch ei ddyfodol yn parhau, ac fe fu Clough yn rhan o’r trafodaethau hynny.

Dywedodd y byddai’r clwb yn gwneud cyhoeddiad “pan fyddai’r amser yn briodol”.

“Fy mhenderfyniad i yw ei gynnwys yn y tîm os daw e’n ôl ond nid fy mhenderfyniad i yw a fydd e’n dychwelyd yn y lle cyntaf – eu penderfyniad nhw [y perchnogion] yw hynny.”

Roedd Evans wedi sgorio 48 o goliau mewn 113 o gemau i’r clwb cyn iddo gael ei garcharu.