Am y tro cyntaf ers 12 mlynedd mae Cymru’n eistedd ar frig grŵp rhagbrofol, ar ôl gêm gyfartal gyda Bosnia a buddugoliaeth dros Gyprus dros y dyddiau diwethaf.

Mae’r freuddwyd o gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc mewn dwy flynedd yn fyw o hyd felly, gyda saith gêm eto i chwarae, ac mae’n amlwg fod cyffro’r cefnogwyr o gwmpas y tîm cenedlaethol hefyd yn ôl.

Wrth i’r tîm nawr ddechrau paratoi ar gyfer y trip i Wlad Belg fis nesaf mae Owain Schiavone, Iolo Cheung a Rhys Hartley nôl ar y pod pêl-droed i drafod oblygiadau’r canlyniadau diweddaraf.

A oedd pedwar pwynt yn ddigon? Oedden nhw’n hapus â thactegau Coleman? Faint o bwyntiau sydd yn rhaid i’r tîm dargedu nawr yng Ngwlad Belg ym mis Hydref ac yna Israel fis Mawrth?

Gallwch hefyd ddarllen blog Iolo Cheung yn trafod 10 ystadegyn difyr sydd wedi codi o’r ymgyrch hyd yn hyn – mwynhewch y pod!