Iolo Cheung
Iolo Cheung sydd yn trafod arwyddocâd rhai o’r ffigyrau trawiadol o ddwy gêm ddiwethaf Cymru …
Tair gêm i mewn, saith i fynd, ac mae Cymru’n mewn safle gwych ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 ar hyn o bryd – grêt!
Y farn gyffredinol ymysg y cefnogwyr oedd bod y tîm wedi gwneud yn dda iawn i gael gêm gyfartal yn erbyn Bosnia ac yna curo Cyprus dros yr wythnos diwethaf.
Rydan ni wedi trafod rhai o oblygiadau’r ddau ganlyniad ar ymgyrch Gymru ar y Pod Pêl-droed eisoes, a gallwch wrando iddo fan hyn:
Felly’r hyn dw i am wneud ydi edrych nôl ar ddeg ystadegyn difyr sydd wedi codi o’r ddwy gêm ddiwethaf, a thrafod arwyddocâd rheiny.
52,014 – cyfanswm y dorf ar gyfer y ddwy gêm ddiwethaf
Gwych gweld y torfeydd yn dychwelyd i wylio Cymru unwaith eto, ar ddechrau ymgyrch ble mae ‘na fwy o ddisgwyliadau ar y tîm rŵan, nid jyst gobaith.
Roedd dros 30,000 yn y gêm Bosnia, a 20,000 yn y gêm Cyprus – a’r peth pwysig oedd bod y tîm wedi ymateb i hynny a chwarae’n wych pan oedden nhw o dan bwysau ar adegau.
Ac roedd yr awyrgylch yn wych ar adegau, gyda’r dorf yn bloeddio canu a gweiddi pan oedd angen rhoi hwb i’r tîm – ydan ni ar drothwy’r dyddiau da eto?
347 – cyfanswm y capiau a ddechreuodd ar y cae i Gymru yn erbyn Cyprus
Roedd gan Gymru ddigon o brofiad rhyngwladol ar y cae yn eu gêm yn erbyn Cyprus, gyda nifer tebyg o gapiau ymysg y rheiny ddechreuodd yn erbyn Bosnia hefyd.
Dim ond Neil Taylor, James Chester a George Williams oedd â llai nag ugain o gapiau nos Lun, ac roedd hynny i’w weld ar y cae wrth i’r tîm lwyddo i ddal gafael ar fuddugoliaeth mewn amgylchiadau anodd.
Fe gyfaddefodd Chris Coleman a Danny Gabbidon y byddai timau Cymru yn y gorffennol wedi colli’r gêm honno – gyda’r profiad sydd ganddyn nhw bellach, y tro yma roedden nhw’n barod am yr her.
7 – y nifer o chwaraewyr oedd yn 25 oed a ddechreuodd yn erbyn Cyprus
Un o’r pethau mwyaf trawiadol am y tîm ddechreuodd yn erbyn Cyprus oedd pa mor agos oedden nhw o ran oed, gyda saith ohonyn nhw’n 25 a dau arall yn 27 (Ashley a George Williams oedd y ddau arall).
Nid siarad gwag ydi’r holl sôn am genhedlaeth aur felly – mae’r garfan o chwaraewyr yma i gyd yng nghanol eu 20au bellach, wedi dod drwy’r timau ieuenctid gyda’i gilydd ac yn ffrindiau yn ogystal â chyd-chwaraewyr.
Mae eraill fel Ramsey, Joe Allen, Ben Davies a Jonathan Williams sydd ychydig yn iau na hynny hefyd ond o fewn yr un genhedlaeth – fe fydd y tîm yma, sy’n gymharol brofiadol eisoes, gyda’i gilydd am flynyddoedd i ddod.
13 – gêm gystadleuol ers i Gymru drechu tîm ym 50 uchaf y byd
Er bod Cymru wedi cael dau ganlyniad da dros yr wythnos diwethaf, y gwir ydi ei bod hi’n dair blynedd bellach ers i ni drechu unrhyw dîm ym 50 uchaf y byd ar restr FIFA mewn gêm gystadleuol.
Y fuddugoliaeth yn erbyn y Swistir yn 2011 oedd honno, ac er ein bod ni wedi curo Bwlgaria, yr Alban, Macedonia, Andorra a Cyprus ers hynny, doedd yr un ohonyn nhw’n uchel iawn yn y detholion ar y pryd.
Yn y cyfamser, ‘da ni heb lwyddo i drechu Gwlad Belg, Croatia, Serbia na Bosnia (tri thîm o’r Balkans yn fanno), felly bydd angen profi’n bod ni’n gallu ennill yn erbyn y timau mawr hefyd os ydyn ni o ddifrif am gyrraedd Ewro 2016.
5 – gêm gystadleuol heb golli i Gymru
Ar y llaw arall, mae Cymru ar rediad da iawn ar hyn o bryd, heb golli gêm gystadleuol ers dros flwyddyn, a dim ond wedi colli un o’n wyth gêm ddiwethaf.
Roedd honno yn erbyn tîm Iseldiroedd oedd ar y ffordd i rownd gynderfynol Cwpan y Byd, a chyda 15 chwaraewr ar goll, felly fe wnawn ni faddau hynny.
Y tro diwethaf i Gymru gael rhediad mor dda â hyn oedd rhwng 2001 a 2003, yn ystod yr ymgyrch ddaeth mor agos at gyrraedd Ewro 2004 …
40 – canran meddiant Cymru ar gyfartaledd yn erbyn Bosnia a Chyprus
Yn erbyn Bosnia a Chyprus roedd Cymru’n ddigon hapus i adael i’r gwrthwynebwyr gadw’r bêl ar adegau, ac yna ceisio gwrthymosod gyda chyflymder pan oedd y cyfle’n codi.
Mae’n dangos fod Coleman yn ddigon hapus i amrywio’r tactegau bellach, a cheisio symud i ffwrdd rhywfaint o’r tactegau cadw meddiant a welwyd o dan Gary Speed.
Fe welon ni fod y ffordd wrthymosodol o chwarae’n siwtio chwaraewyr fel Gareth Bale, Hal Robson-Kanu a’r ddau Williams fach, Jonny a George, yn dda.
13 – ergyd gymrodd Gareth Bale ar y gôl yn erbyn Bosnia a Chyprus, heb sgorio’r un
Heb chwaraewyr fel Sam Vokes ac Aaron Ramsey, roedd hyd yn oed mwy o bwysau ar Gareth Bale i gynnig bygythiad ymosodol i Gymru, yn enwedig ar ôl ei ddwy gôl yn erbyn Andorra.
Siomedig ella felly’i fod o heb lwyddo i ffeindio cefn y rhwyd mewn 13 ymgais, er nad oedd y rheiny i gyd yn rai hawdd o bell ffordd.
Serch hynny roedd yn allweddol unwaith eto yn ymosodol, ac mae ei arweinyddiaeth a’i angerdd ar y cae yn treiddio i weddill y tîm.
3 – nifer o weithiau y cafodd chwaraewyr Cyprus gerdyn melyn am droseddu yn erbyn Bale
Gan mai Bale oedd y bygythiad mwyaf, fe gafodd ei dargedu gan Gyprus nos Lun, gyda phum trosedd yn ei erbyn.
I fod yn deg i’r dyfarnwr, fe gosbodd dair o’r rheiny gyda chardiau – ond fe fynnodd Coleman ar ôl y gêm y gallai rhai o’r rheiny fod wedi bod yn goch yn hytrach na melyn.
4 – cyfanswm goliau David Cotterill a Hal Robson-Kanu i Gymru mewn 42 cap
Cyn nos Lun, dim ond un gôl yr un oedd gan Cotterill a Robson-Kanu i Gymru. Da oedd gweld chwaraewyr fel nhw, sydd ddim yn sgorio’n aml, yn cyfrannu pan oedd rhywun fel Bale methu sgorio.
Does ‘na ddim lot o sgorwyr cyson yng ngharfan Cymru ar hyn o bryd – ond mae ‘na ddigon sy’n medru cyfrannu goliau nawr ac yn y man, felly mae jyst angen iddyn nhw wneud hynny ar yr adegau allweddol.
1 – safle Cymru yn y grŵp ar ôl tair gêm
Yr ystadegyn pwysicaf – Cymru ar frig y grŵp, gyda thripiau allweddol a heriol i Wlad Belg ac Israel i ddod dros y misoedd nesaf.