Iolo Cheung
Mae’r helynt o gwmpas diswyddiad Alun Davies wedi codi nifer o gwestiynau’n barod, a dydi’r gwrthbleidiau heb oedi cyn rhoi’r cwestiynau yna gerbron y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Ydi’r Prif Weinidog yn difaru peidio diswyddo’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn gynharach, pan gafodd gyfle i wneud dros achos y trac rasio ym Mlaenau Gwent?

Pam fod ei weithred ddiweddaraf, sef gofyn am fanylion preifat taliadau fferm rhai Aelodau Cynulliad, yn haeddu’r sac pan nad oedd yr un blaenorol?

A yw hi’n bryd ailedrych ar y Cod Gweinidogol, a diffinio’n gliriach beth yw’r gosb am ei thorri?

A beth mae hyn oll, o ystyried y ffaith fod Alun Davies wedi gofyn am y wybodaeth ar lafar ar ôl iddo gael ei wrthod dros e-bost, yn ei ddweud am ddiwylliant gweithio gweinidogion a gweision sifil ym Mae Caerdydd?

Mae Carwyn Jones eisoes wedi addo ystyried rhai o’r materion hyn – ond wfftio’r awgrym ei fod yn difaru peidio’i ddiswyddo’n gynt.

Ond cwestiwn arall a gododd yn sgil diswyddiad Alun Davies oedd pwy fyddai’n ei olynu fel Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd – a dyma ble cafodd problem arall ei hamlygu.

Ble mae’r dalent?

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n cyhoeddi Gweinidog newydd portffolio’n fuan wedi diswyddiad Alun Davies, ac o fewn ychydig oriau roedden nhw wedi gwneud hynny.

Ond nid Aelod Cynulliad newydd gafodd eu dewis o feinciau cefn y Blaid Lafur. Yn hytrach, fe rannwyd y portffolio rhwng y gweinidogion presennol, Edwina Hart a John Griffiths.

Mae Hart bellach yn gyfrifol am feysydd polisi Amaeth, Bwyd a Physgota yn ogystal â’i phortffolios presennol gan gynnwys yr economi, gwyddoniaeth, trafnidiaeth a thwristiaeth.

Cafodd Griffiths gyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chyfoeth naturiol, i fynd law yn llaw â’i ddyletswyddau presennol fel gweinidog dros ddiwylliant a chwaraeon.

Cafodd Rebecca Evans ei phenodi fel Dirprwy Weinidog ar gyfer Amaeth a Bwyd, dyletswyddau newydd Hart.

Nid swydd gweinidog lawn, ond mae rhywun yn tybio y gallai pâr o ddwylo ychwanegol fod yn llawer o gymorth i’r gweinidog sydd nawr fel petai’n gyfrifol am y rhan fwyaf o feysydd polisi Cymru y tu hwnt i’r ddau fawr, addysg ac iechyd.

Mae’n tanlinellu un o’r prif broblemau sydd yn wynebu Carwyn Jones unrhyw bryd y mae’n dymuno, neu’n hytrach angen, gwneud newidiadau i’r Cabinet.

Mae fel petai’n edrych o gwmpas a sylwi nad oes ganddo unrhyw Aelodau Cynulliad y mae wir yn teimlo sydd â’r gallu i fod yn weinidogion.

Mae eisoes wedi gorfod penodi Vaughan Gething, Ken Skates a nawr Rebecca Evans – aelodau sydd dal yn eu tymor cyntaf fel gwleidyddion yn y Bae – fel dirprwy weinidogion.

Mae hynny’n rhannol oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn rai o aelodau mwyaf addawol y blaid Lafur, ond mae hefyd yn tanlinellu’r diffyg profiad sydd ar gael i Carwyn Jones ddewis ohoni.

Fel mae’n digwydd, cafodd Gething a Skates eu swyddi dirprwyol y tro diwethaf i enw mawr adael y Cabinet.

Pa adawodd Leighton Andrews ei swydd fel y Gweinidog Addysg fe symudwyd Huw Lewis i’w le, a bryd hynny fe symudwyd yr iaith Gymraeg i fod o dan ofal y Prif Weinidog.

Ac mae’n hawdd gweld pam fod llenwi’r swyddi yma’n gallu creu ychydig o gur pen i Carwyn Jones – dim ond 30 Aelod Cynulliad Llafur sydd ganddo.

Mae un o’r rheiny, Rosemary Butler, yn Llywydd, ac mae gan 13 ohonyn nhw, gan gynnwys ef ei hun, swyddi gweinidogol yn y cabinet.

Mae’n golygu fod bron i hanner ei aelodau’n gorfod bod â’r gallu i fod yn weinidogion yn y llywodraeth.

A hynny heb ystyried fod dau o’r rhai mwyaf galluog y gallai ddewis, yn ôl llawer – Leighton Andrews ac Alun Davies – ddim ar gael.

Dychmygwch senario yn Llundain ble byddai’n rhaid i Lywodraeth ganfod bron i hanner ei haelodau oedd yn ddigon da i fod yn weinidogion – byddai angen o leiaf 150.

Angen mwy o ddewis

Mae’r ateb yn syml, ond wrth gwrs nid yn un sydd wastad yn boblogaidd ymysg y cyhoedd – mae angen mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd.

Iawn, mae hon yn sefyllfa anarferol efallai, gan nad oes ganddi fwyafrif ond gan nad yw chwaith wedi clymbleidio ag unrhyw un.

Rhwng 2007 a 2011, o leiaf roedd modd dewis y goreuon o ddwy blaid, gyda’r nifer o ddewisiadau posib hefyd yn ehangach oherwydd y cyfanswm o 40 o aelodau.

Mae’r syniad wedi bod o gwmpas ers cyn Comisiwn Richard 2004 mewn gwirionedd, pan awgrymwyd y gallai hyd at 100 o aelodau eistedd yn siambr y Cynulliad.

Ac mae llawer, gan gynnwys Catrin Williams ar Flog Gwleidyddiaeth golwg360, eisoes wedi manylu ar y rhesymau pam y byddai hyn yn dda, o ran ysgwyddo’r baich ar yr Aelodau Cynulliad presennol.

Yn yr achos hwn, fe fyddai hefyd yn gymorth i Lywodraeth Cymru, pa bynnag liw y bydd hi yn y dyfodol – wrth roi mwy o ddewis pan ddaw at ddewis aelodau galluog o fewn y pleidiau.

Yr ateb, i’r rheiny sydd ddim eisiau gweld rhagor o wleidyddion, fyddai cwtogi ar y niferoedd yng Nghymru mewn modd arall, drwy leihau’r nifer o gynghorwyr sir, fel y gallai ddigwydd pan ddaw’r ad-drefnu.

Neu wrth gwrs, petai rhagor o ddatganoli’n dod i Gymru, leihau’r nifer o Aelodau Seneddol sydd eu hangen arnom yn Llundain.

Y gwir yw bod y diffyg Aelodau Cynulliad nid yn unig yn effeithio ar allu’r aelodau hynny i archwilio gwaith Llywodraeth Cymru’n iawn.

Mae hefyd yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n gorfod ymbalfalu wrth geisio sicrhau bod ganddi’r gweinidogion sydd ei hangen arni er mwyn gwneud ei gwaith.