Siop Griffiths ym Mhenygroes
Mi fydd cyfarfod cyhoeddus ym Mhenygroes, Gwynedd heno i drafod achub un o adeiladau mwyaf hanesyddol Dyffryn Nantlle, sef hen siop nwyddau tŷ Siop Griffiths.
Caewyd Siop Griffiths yn 2011, ar ôl mwy na 100 mlynedd o wasanaethu’r ardal, ac mae’r adeilad wedi bod yn wag ers hynny.
Ond mae menter gymunedol Dyffryn Nantlle2020 yn gobeithio y bydd modd prynu’r adeilad ar stryd fawr Penygroes, a’i drawsnewid yn ganolfan ar gyfer y gymuned.
Bydd y cyfarfod yn Neuadd Goffa Penygroes am 7 o’r gloch heno yn casglu syniadau gan drigolion lleol ynglŷn â beth fydden nhw’n hoffi ei weld ar y safle.
Gobeithion
Dywedodd Llinos Non, sy’n rhan o fenter gymunedol Dyffryn Nantlle 2020, fod “angen dirfawr” i wneud rhywbeth ym Mhenygroes, yn enwedig ar gyfer bobol ifanc yr ardal.
“Rydym ni eisiau datblygu nifer o weithgareddau i’r gymuned lle mae’r Gymraeg yn greiddiol, ac mae ganddom ni ardal wych a llwybrau anhygoel i wneud hynny.
“Mae’n biti gweld y pentref wedi dirywio gymaint ag y mae o. Mae Penygroes wedi bod yn ganolbwynt i’r Dyffryn, ond mae mwy a mwy o fusnesau ag adnoddau lleol yn diflannu.
“Dwi ddim yn gwybod be fydd dyfodol y pentref ond mae ganddom ni gyfle i wneud rhywbeth amdano fo.”
‘Am geisio gwneud rhywbeth positif ‘
Ychwanegodd aelod arall o grŵp Dyffryn Nantlle 2020, yr awdures Angharad Tomos, ei bod yn siom fod adeilad sydd a chymaint o hanes ynghlwm a hi yn sefyll yn wag:
“Roedd yr adeilad yn cael ei defnyddio fel gorsaf drenau, a honno oedd yr orsaf drenau hynaf yn y byd. O ystyried hynny, roeddem ni’n meddwl y basa hi’n bechod ofnadwy gadael y lle i fynd.
“Yn lle ein bod ni gyd yn cwyno, rydym ni am geisio gwneud rhywbeth positif a gweld beth all criw bach ei wneud.
“Allwn ni ddim byw ar y syniad y bydd rhywun o’r tu allan yn dod i achub y lle, yn enwedig gan fod banc HSBC y pentref newydd gau hefyd, a’r gobaith ydy y bydd hyn yn ein hymgryfhau ni fel pobol leol – i ni gael teimlo ei bod hi’n bosib cadw gafael ar fywyd y pentref.”