Aelodau undeb y Brigadau Tan FBU yn streicio heddiw
Mae undeb Unite wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o ragrith tros gynlluniau i gyflwyno cyfreithiau newydd ar streicio.
Mae streic genedlaethol heddiw wedi tarfu ar wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, ysgolion a’r gwasanaethau brys.
Cafodd y streic ei threfnu oherwydd ffrae am bensiynau a chyflogau.
Dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron a nifer o wleidyddion blaenllaw eraill fod y streic wedi’i threfnu ar sail pleidlais rai blynyddoedd yn ôl lle’r oedd nifer y pleidleiswyr yn isel.
Mae’r Llywodraeth yn awyddus i newid y gyfraith a fyddai’n ei gwneud yn anghyfreithlon i gynnal streic pe na bai nifer penodol o bobol wedi pleidleisio o blaid gweithredu’n ddiwydiannol.
Ond mae Unite wedi taro nôl gan ddweud nad oedd unrhyw aelod o Gabinet Llywodraeth Prydain wedi ennill 50% o’r bleidlais yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Yr aelod cabinet gafodd y ganran isaf o bleidleisiau oedd Ysgrifennydd Cymru (27%), David Jones yn ei etholaeth yng Ngorllewin Clwyd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Len McCluskey: “Mae’n rhagrith llwyr i’r Llywodraeth sôn am fandadau ar gyfer undebau llafur pan na fyddai unrhyw aelod o’r Cabinet presennol wedi cael ei ethol gan ddefnyddio’r un meini prawf.
“Does gan y Llywodraeth hon ddim mandad i ymosod ar undebau llafur na’r gweithwyr sydd wedi cael eu gorfodi i weithredu’n ddiwydiannol heddiw yn eu brwydr i roi terfyn ar gyflogau tlodi.
“Mae cyfreithiau gwrth-undebau llafur Prydain eisoes ymhlith y rhai mwyaf cyfyngedig yn Ewrop.
“Mae ymdrechion y Torïaid i gwtogi ymhellach ar hawliau pobol sy’n gweithio i drefnu’n ddemocrataidd yn wynebu’r perygl o osod Prydain Cameron ochr yn ochr â gwledydd fel Kazakhstan, Albania a Niger, lle mae’r hawl i weision cyhoeddus weithredu yn anghyfreithlon.”