Mae teulu o wyth o bobol ymhlith y rhai sydd wedi cael eu lladd wedi i Israel gynyddu nifer yr ymosodiadau o’r awyr ar Gaza.

Nod Israel yw taro cynifer o ganolfannau Hamas â phosib wedi i’r lluoedd arfog feddiannu system taflegrau gafodd ei hanelu at y wlad o gyfeiriad Gaza.

Dywedodd llefarydd ar ran lluoedd arfog Israel eu bod nhw wedi taro mwy na 320 o ganolfannau Hamas dros nos, sy’n golygu bod mwy na 750 o ganolfannau wedi cael eu taro yn ystod y tridiau diwethaf.

Mae o leiaf 75 o Balestiniaid wedi cael eu lladd yn ystod y cyrchoedd.

Mae 20,000 o filwyr Israel yn barod i weithredu pe baen nhw’n cael eu hanfon i mewn i Gaza ar droed.

Ond mae yna bryderon y gallai ymosodiad o’r fath arwain at ladd nifer fawr o Balestiniaid cyffredin.

Does dim arwydd eto fod y brwydro’n dirwyn i ben ac mae Israel yn mynnu bod rhaid i Hamas roi’r gorau i ymosod o Gaza  cyn y byddan nhw’n ystyried rhoi terfyn ar eu hymosodiadau.