Cerith Rhys Jones
Mae blogiwr gwleidyddiaeth golwg360 Cerith Jones yn cydnabod nad yw ei safbwynt yn boblogaidd, ond mae’n dweud bod dadleuon cryf dros gynyddu tâl Aelodau Seneddol beth bynnag …
Pan gyhoeddwyd ar ddechrau’r wythnos y bydd Aelodau Seneddol yn cael codiad o 11% yn eu cyflog – o £66,396 i £74,000 y flwyddyn – fy ymateb cyntaf i oedd un o fodlonrwydd. Gadewch imi fod yn gwbl eglur: rwyf o’r farn fod y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol yn haeddu £74,000 y flwyddyn.
Gweithwyr caled
Mae oriau gwaith Aelodau Seneddol yn anghredadwy o hir – mae’r bobl hyn yn gweithio 12 awr neu fwy yn ddyddiol ac yn gwneud gwaith yn yr etholaeth ar y penwythnos.
Mae bywyd personol Aelodau Seneddol wrth reswm yn dioddef pan fod un aelod o’r teulu, boed yn fam neu’n dad, yn treulio nifer o ddyddiau i ffwrdd o’r cartref bob wythnos. Mae hynny heb sôn am y gwaith o deithio’n ôl ac ymlaen o’r etholaeth i Lundain.
Mae’r dasg o fod yn ddeddfwr yn dodi rhywun dan bwysau mawr.
Mae byw bywyd cyhoeddus, ar lefel yr etholaeth neu ar lefel genedlaethol, yn feichus dros ben.
Gallech, fe allech ddadlau fod y pethau hyn i gyd yn rhan hanfodol o gael y fraint o gynrychioli etholwyr ac o fod yn ddeddfwyr gwlad. Efallai fod honno’n ddadl deilwng. Yr Aelodau Seneddol eu hunain sy’n penderfynu mynd am yrfa gyhoeddus, wedi’r cyfan.
Ond yn bersonol, rwyf o’r farn fod y gwaith y mae Aelodau Seneddol yn ei wneud yn werth £74,000.
Ddim yn cytuno?
Nawr, rwy’n gwybod nad yw honno’n farn boblogaidd iawn. Pan drydarais i yn gynharach fy mod o’r farn fod £74,000 yn swm derbyniol o arian i’w roi i Aelodau Seneddol, fe’m hatgoffwyd:
– nad yw’r cyhoedd yn cefnogi talu £74,000 y flwyddyn i Aelodau Seneddol;
– bod Aelodau Seneddol yn cael hawlio treuliau ar ben eu cyflog arferol; a
– bod pobl megis athrawon, meddygon, bydwragedd a diffoddwyr tân (ymysg llwyth o swyddi eraill) yn ennill llai na £74,000.
Dywedwyd wrthyf: ‘[Rwy’n] siomedig iawn i glywed ti’n gweud hyn Cerith, a bod yn onest.’
Rwy’n deall nad yw meddwl fod Aelodau Seneddol (ac Aelodau Cynulliad yn hynny o beth) yn haeddu cyflog hael yn farn boblogaidd.
Ond i mi, y gwirionedd yw bod y bobl hyn yn gweithio’n galed dros ben ac yn aberthu llawer o’u bywydau personol er mwyn eu gwaith ac yn hynny o beth, mae cyflog o £74,000 yn dderbyniol.
Ond, fy nhrydariad gwreiddiol oedd: ‘I don’t mind saying that I think a lot of MPs are worth £74k p/a but announcing this now shows how extraordinarily stupid Ipsa are.’
Rwyf am ddweud nawr fy mod yn dymuno aralleirio’r trydariad hwnnw. Nid oedd y gair ‘announcing’ yn cyfleu’n iawn yr hyn roeddwn am ei ddweud. Yr hyn rwy’n ei olygu yw ei fod yn anaddas fod y codiad hwn mewn cyflog Aelodau Seneddol yn digwydd yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
Pan fo Duw a ŵyr faint o bobl heb waith; pan fo pobl hyd a lled yr ynysoedd hyn yn ei chael yn anodd talu am wres ac am fwyd pan ddaw diwedd pob mis; pan nad yw’r mwyafrif o doriadau a llymder y Llywodraeth Brydeinig heb hyd yn oed ddod eto; pan fo gweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus yn wynebu toriad ‘termau go iawn’ yn eu cyflog – rwy’n gryf o’r farn nad yw’r codiad hwn yn addas.
ASau’n haeddu’r cyflog – pan ddaw’r amser
Rwy’n hapus o weld fod gwleidyddion o amryw argyhoeddiad gwleidyddol wedi dweud yn gyhoeddus eu bod yn gwrthwynebu’r codiad – er, rhaid i mi amau didwylledd rhai ohonynt.
Y gwirionedd y mae’r mwyafrif o bobl yn ei dderbyn, ‘dw i’n meddwl, yw bod ar wleidyddion ddyletswydd i ‘fod yn rhan o’r bobl’ hyd yn oed os nad yw eu ffordd o fyw fel ffigurau cyhoeddus, prysur yn bodloni hynny. Iawn. Mae disgwyl fod gwleidyddion yn dangos undod gyda’r bobl, a pheth hollol, hollol addas yw hwnnw.
Ond hyd y gwela’ i, does dim byd yn bod ar fod o’r gred fod y gwaith bod Aelodau Seneddol yn ei wneud yn haeddu cyflog sy’n adlewyrchu faint maen nhw’n gweithio ac yn aberthu. Mae’r un peth yn wir am athrawon, meddygon, bydwragedd a diffoddwyr tân (ymysg llwyth o swyddi eraill).
‘Dw i’n gwrthwynebu rhoi codiad mewn cyflog i Aelodau Seneddol tan fod yr hinsawdd economaidd wedi gwella, os yw hynny yn 2015 neu beidio. A phan fydd yr hinsawdd economaidd yn well, wedyn gobeithio y bydd codiadau mewn cyflog yn digwydd ar hyd a lled yr ynysoedd hyn – ond yn enwedig i’r bobl ar lawr gwlad sy’n strýglo ac yn dioddef ar hyn o bryd.
Gallwch ddilyn Cerith ar Twitter ar @cerithrhys.