Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i bibau copr gwerth £10,000 gael eu dwyn.

Cafodd dros 280 o goiliau eu dwyn o Refrigeration Parts in Heol y Rhosog yn Rhymni rhywbryd rhwng nos Lun a ddoe.Roedd y lladrad wedi cael ei ddarganfod ddoe ar ôl i’r lladron symud ffens ddur er mwyn cael mynediad i’r safle.

Mae’r heddlu wedi bod yn cynnal profion fforensig er mwyn ceisio dod o hyd i’r lladron.

Mae lladradau o’r fath ar gynnydd oherwydd chwyddiant ym mhris metelau fel copr a phlwm.

Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth ynglŷn â’r lladrad gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar  01656 655555 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.