Protest y TUC ym mis Mawrth - argoel o'r hyn sydd i ddod?
Fe fydd gwledydd Prydain yn wynebu eu gweithredu diwydiannol mwya’ ers blynyddoedd gydag undebau sy’n cynrychioli mwy na miliwn o weithwyr yn pleidleisio tros streic.
Fe fydd tri undeb athrawon ac un o undebau mwya’r sector cyhoeddus yn cynnal streic ar ddiwrnod ola’ mis Mehefin i brotestio’n benna’ yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i newid eu hamodau pensiwn.
Undeb y gweision sifil, y PCS, yw’r diweddara’ i gefnogi’r gweithredu diwydiannol, gyda mwy na 605 o blaid streic a mwy nag 80% o blaid dulliau arall o weithredu.
Ond fe fydd y bleidlais yn achosi dadl hefyd gan mai dim ond 32.4% o’r aelodau oedd wedi pleidleisio – ffigurau tebyg i’r lefel pleidleisio yn undebau athrawon yr NUT ac ATL.
‘Treth ar weithwyr cyhoeddus’
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS, y Cymro Mark Serwotka, wedi rhybuddio mai dim ond dechrau yw hyn ac y gallai’r Llywodraeth wynebu anghyfod diwydiannol ar raddfa eang.
“Mae’r Llywodraeth yn cyfadde’ y bydd yr arian sy’n cael ei dorri o bensiynau yn mynd yn syth i’r Trysorlys i helpu talu’r diffyg; dyw hyn yn ddim ond treth ar weithio yn y sector cyhoeddus,” meddai.
“Nid tâl a phensiynau bychain gweision cyhoeddus sydd wedi achosi’r dirwasgiad, felly ddylen nhw ddim cael eu beio na’u cosbi am hynny.”
Y ddadl
Mae’r CPS hefyd yn dweud eu bod yn protestio yn erbyn y bygythiad i swyddi ac amodau gwaith – o ran pensiynau, mae’r undebau’n dweud y bydd rhaid i’w haelodau dalu mwy a gweithio mwy i dderbyn llai o bensiwn ar ôl ymddeol.
Yn ôl y Gweinidog Cabinet, Francis Maude, byddai’n gamgymeriad mawr i athrawon a gweision sifil fynd ar streic tra bod trafodaethau gyda’r Llywodraeth yn parhau.