Adeilad y Cynulliad
Fis wedi’r etholiad, mae’r Cynulliad wedi penodi ei ddau bwyllgor cynta’ ar gyfer y sesiwn newydd.

Fe fydd un yn trafod syniadau ar gyfer deddfau sy’n cael eu cynnig gan fudiadau ac aelodau o’r cyhoedd a’r llall yn craffu ar benderfyniadau y mae gweinidogion yn gallu eu gwneud yn y maes deddfu.

Roedd yna feirniadaeth fawr wedi bod ar y Cynulliad am fethu â gweithredu ynghynt – dim ond ddoe y rhoddodd y Llywodraeth amlinelliad bras o’u cynlluniau deddfu.

Un o dasgau cynta’r Pwyllgor Deisebau, dan gadeiryddiaeth yr AC Llafur Christine Chapman, fydd trafod y ddeiseb fwya’ erioed i’w rhoi ger ei fron.

Mae mwy na 2,000 o bobol wedi arwyddo’r ddogfen yn mynegi pryder am ffermydd gwynt a pheilonau yng nghanolbarth Cymru.

‘Pwysig craffu’n iawn’

Y Ceidwadwr David Melding, Dirprwy Lywydd y Cynulliad, sy’n cadeirio’r pwyllgor arall, y Pwyllgor Offerynnau Statudol.

Hwnnw sy’n craffu ar fathau o benderfyniadau statudol y mae gweinidogion yn gallu eu gwneud heb drafod na phasio deddfau penodol.

Un enghraifft yn ystod y Cynulliad diwetha’ oedd y gorchymyn a wnaed trwy Offeryn Statudol i ddifa moch daear mewn rhannau o orllewin Cymru.

“Mae’n bwysig iawn bod craffu effeithiol ar y rhain a bod unrhyw achos pryder yn cael ei ddwyn yn gyflym at sylw’r Llywodraeth ac, os oes raid, at sylw’r Cynulliad cyfan,” meddai David Melding.