Darn o'r Groes Hoelion (scriboCCA2.0)
Fe fydd croes arbennig yn dod i Gymru am y tro cynta’r penwythnos yma i nodi stori drawiadol o faddeuant a chymod rhwng dwy ardal, ym Meirionnydd a’r Almaen.

Ardal Llanbedr ger Harlech fydd y gynta’ i dderbyn y Groes Hoelion o Eglwys Gadeiriol Coventry, sy’n cael ei hystyried yn symbol fyd-eang o heddwch a chymodi.

Mae Archesgob Caergaint, Rowan Williams, hefyd wedi anfon neges Gymraeg ar gyfer y gwasanaeth arbennig i dderbyn y groes yn yr eglwys leol fore Sul.

Mae honno’n cynnwys dyfyniad o’r gerdd Tangnefeddwyr gan Waldo Williams yn dweud … “Cenedl dda  a chenedl ddrwg – dysgent hwy mai rhith yw hyn …”

Digwyddiad trasig

Roedd llawer o’r gwaith trefnu i dderbyn y groes wedi ei wneud gan ddyn lleol, John Wynne, a oedd yn rhan o ddigwyddiad trasig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd yn beilot awyren a aeth i drafferth uwchben yr Almaen ac fe fu’n rhaid i chwech milwr neidio ohoni. Fe gafodd pump eu llofruddio gan filwyr Almaenig mewn pentref o’r enw Huchenfeld.

Heb yn wybod i’r milwyr, roedd tref arall yn yr ardal newydd gael ei bomio gan Lu Awyr Prydain gan ladd 18,000 o bobol, chwarter y boblogaeth.

Gefeillio

Ers 1993,  mae John Wynne wedi bod yn ceisio tynnu ei gymuned ei hun a Huchenfeld yn nes ac mae’r ddwy bellach wedi gefeillio.

“Mae eglwysi’r ddwy gymuned wedi codi cofeb i gofio am y pum milwr,” meddai cynghorydd lleol Llanbedr, Evie Morgan Jones. “Rydanni’n parhau yn ein gwaith o gymodi ac o ennyn heddwch. Mae hi’n anrhydedd fawr i ni dderbyn y groes symbolaidd hon i’n cymuned.”

Fe gafodd y groes ei chreu o ddarnau o hoelion canoloesol o hen eglwys gadeiriol Coventry ar ôl iddi gael ei dinistrio mewn cyrch awyr gan yr Almaenwyr.