Lois Dafydd a'r rhifyn cyntaf
Mae gan y Gymraeg bapur bro newydd sbon – un sy’n cael ei gyhoeddi filoedd o filltiroedd i ffwrdd ym Mhatagonia.
Mae’r rhifyn cynta’ o Clecs Camwy bellach yn cael ei ddosbarthu’n rhad ac am ddim yn ardal Dyffryn Camwy.
Mae’n ychwanegu at bapur Y Drafod, sy’n 120 oed, a Llais yr Andes sydd eisoes yn cael ei gyhoeddi yn rhan ddwyreiniol y Wladfa yn Esquel a Threvelin.
Fe gafodd y papur bro newydd ei lansio yn y Gaiman ddechrau’r mis, dan olygyddiaeth Lois Dafydd sydd draw ym Mhatagonia, yn swyddog gyda Menter Patagonia yn Nyffryn Camwy.
Mae’r papur, sy’n cynnwys newyddion, rysetiau a phosau, a geirfa Gymraeg a Sbaeneg yn cael ei ddosbarthu’n eang, hyd yn oed i bobol sydd heb allu siarad Cymraeg.
‘Ar gael i bawb’
“Dw i’n credu y dylai fod ar gael i bawb,” meddai Lois Dafydd. “Hyd yn oed os yw person yn ei godi, yn syllu’n syn arno ac yna’n ei roi i lawr, o leiaf mae’n gwybod am ei fodolaeth ac wedi dod i ryw fath o gysylltiad ac wedi cael ymwybyddiaeth o’r Gymraeg.”
Yn ôl Lois Dafydd, mae’n anodd mesur cryfder y Gymraeg yn y Wladfa, gan nad yw’r iaith wedi ei chynnwys yn y cyfrifiad yno. Ond mae ysgol feithrin, ysgol a choleg yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.
“Dw i yma ers tri mis,” meddai, “ac yn dal i gwrdd â siaradwyr Cymraeg newydd. Mae yna ddiddordeb mawr yn yr iaith gyda’r niferoedd sy’n mynychu dosbarthiadau’n cynyddu.”
Noddwr sy’n talu am gynhyrchu’r papur.