Wrth i weithwyr ambiwlans ddechrau streicio heddiw (Rhagfyr 21), mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol i beidio â rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth.

Dylai pobol gymryd gofal ychwanegol a ffonio 999 mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd neu argyfwng difrifol yn unig, meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Mae disgwyl “effaith ddifrifol” ar wasanaethau ambiwlans, wrth i weithwyr sy’n aelodau o undeb GMB streicio am y tro cyntaf heddiw. Byddan nhw’n mynd ar streic ar Ragfyr 28 hefyd.

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn disgwyl y bydd amharu sylweddol ar nifer yr ambiwlansys brys sy’n gallu mynd at gleifion ar ddiwrnodau’r streic, ac wedi rhybuddio mai dim ond achosion o salwch neu anafiadau sy’n peryglu bywyd sy’n debygol o gael ymateb brys ar ddiwrnodau’r streic.

Bydd y cleifion salaf yn parhau i gael eu blaenoriaethu, ac ni fydd cleifion sy’n llai sâl, neu ag anafiadau llai difrifol yn cael ymateb ambiwlans.

Gall hyn hefyd olygu y bydd angen i gleifion ddod o hyd i ffordd arall o gyrraedd yr ysbyty os nad yw bywyd yn y fantol, cyn belled eu bod yn teimlo ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny.

‘Pwysau aruthrol’

Dywedodd Eluned Morgan: “Does dim amheuaeth y bydd y ddau ddiwrnod o weithredu diwydiannol, yn fuan iawn ar ôl gweithredu gan nyrsys a achosodd oedi yn nhriniaeth miloedd o gleifion yng Nghymru, yn rhoi pwysau aruthrol ar y gwasanaethau ambiwlans.

“Dim ond y galwadau mwyaf brys y bydd ambiwlansys yn gallu ymateb iddynt ar ddiwrnodau’r streic.

“Peidiwch â rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau ar y diwrnodau hyn a meddyliwch yn ofalus am y gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud yfory ac ar yr 28ain.

“Mae’n bwysig eich bod yn ffonio 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ond mae’n rhaid i bob un ohonom ystyried yn ofalus iawn sut rydym yn defnyddio’r gwasanaethau ambiwlans ar y diwrnodau hyn.

“Fel defnyddwyr ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae’n hanfodol bod pob un ohonom yn gwneud popeth gallwn i leihau’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y gweithredu diwydiannol.”

‘Ymrwymiad i ddiogelu cleifion yn gorfodi nyrsys i fynd ar streic’

Cadi Dafydd

“Ar ddiwedd y dydd, mae yna ddigon o swyddi sy’n talu’n well a ddim efo hanner y cyfrifoldebau,” medd un nyrs wrth golwg360