Mae “priffordd” o wrychoedd sy’n ymestyn dros dri chilomedr wedi cael ei chreu yn Eryri.

Y gobaith yw y bydd y coridor o wrychoedd yn y Foel yng Nghwm Penmachno yn rhoi hwb i fywyd gwyllt yn yr ardal.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n berchen ar y tir, bydd y gwrychoedd o fudd i rywogaethau sydd mewn perygl, fel y gog a golfanod y mynydd.

Bydd y gwrychoedd, sy’n cyfateb i 30 cau pêl-droed, yn helpu i leihau effaith llifogydd ar gymunedau lleol hefyd.

Yn gynharach y mis hwn, daeth deugain o bobol ynghyd, gan gynnwys aelodau’r gymuned a staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i blannu cymysgedd o wrychoedd brodorol ar ochrau’r bryn.

‘Potensial i natur ffynnu’

Daeth y safle 1,600 acer i ddwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol llynedd, a bellach mae Will Bigwood wedi ymgartrefu yn ei swydd newydd fel Rheolwr Fferm y Foel, gan ofalu am yr ardal.

Mae’r ardal yn cynnwys nentydd mynydd a mawndir “gwerthfawr”, hen ffordd Rufeinig, tair hen chwarel lechi a rhan o Lwybr Llechi Eryri.

“Mae fy rôl yma yn y Foel yn ymwneud â ffermio a chadwraeth mewn tirwedd eithriadol,” meddai Will Bigwood.

“Rydym yn dal i bori defaid a gwartheg, gan wneud lle hefyd i natur. Mae yna botensial mawr i natur ffynnu yma a’n nod yw creu brithwaith cyfoethog o laswelltiroedd a rhostiroedd, dolydd a gorgorsydd.

“Ers dechrau gweithio yn y Foel, rydw i wedi bod yn ailgodi ffensys ar hyd terfynau caeau isaf y fferm, ac erbyn hyn rydym wedi dechrau creu rhwydwaith o wrychoedd.

“Rydym yn plannu coed brodorol fel bedw arian, derw mes di-goes a drain gwynion yn y llefydd iawn er mwyn cynnig cysgod i dda byw, cartrefi i fywyd gwyllt a ffynhonnell fwyd wych i lu o rywogaethau, wrth i’r gwrychoedd dyfu.”

Yn y dyfodol, gallai mamaliaid prin fel pathewod a beleod, ynghyd ag anifeiliaid mwy cyffredin fel draenogod, bronwennod a llygod y meysydd, elwa ar y briffordd gwrychoedd newydd hon.

“Ein bwriad yw gwella’r rhostiroedd a’r gweundiroedd ar hyd rhannau uchaf y Foel,” meddai Will Bigwood.

“Bydd y cynefinoedd hyn yn fannau nythu a bwydo delfrydol i adar eraill sydd ar y Rhestr Goch, fel y boda tinwyn, y cwtiad aur a’r rugiar goch.”

Diwrnod plannu’r gwrychoedd, Will Bigwood yn y canol. Llun gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru / Iolo Penri

‘Man cychwyn yn unig’

Fel cynefin wedi’i adfer yn llwyr, y syniad yw y bydd y ffridd a’r gwrychoedd yn storio carbon ac yn helpu i arafu llif y dŵr o’r copaon i’r dyffrynnoedd a’r cymunedau islaw.

“Mae’r Foel yn cynnig cynfas inni ar gyfer helpu i liniaru newid hinsawdd a chreu mannau gwych lle gall natur ffynnu ar adeg pan mae ein cymdeithas wir angen hyn,” meddai Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

“Bydd y gwrychoedd newydd yn igam-ogamu ar draws y tir, gan adleisio terfynau tir hanesyddol a chynnig manteision enfawr i fywyd gwyllt.

“Mae dyfodol cyffrous o flaen y Foel. Y bwriad yw defnyddio system bori sy’n ystyriol o natur, cau ffosydd artiffisial mewn mawn dwfn er mwyn iddyn nhw allu gweithio’n naturiol i storio carbon yn hytrach na’i ryddhau, ac adfer afonydd.

“Man cychwyn yn unig yw creu gwrychoedd, a hoffwn ddiolch i bawb a ymunodd â ni ar y diwrnod plannu gwrychoedd.”