Mae addysg yn chwarae rhan flaenllaw wrth hybu’r Gymraeg erbyn hyn, ond byddai plant yn cael eu cosbi’n llym yn yr ysgol am siarad eu mamiaith amser maith yn ôl.
Ond a oedd hi’n anghyfreithlon siarad Cymraeg yn yr ysgol?
Dyna’r honiad gafodd ei wneud yn ddiweddar, yn ystod trafodaeth ar sut caiff addysg cyfrwng Cymraeg ei darparu mewn un awdurdod lleol, ac i ddysgwyr.
Wrth siarad yn ystod cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, pan gafodd honiadau eu clywed fod rhai plant lleol yn credu bod gwersi Cymraeg yn “wastraff amser”, honnodd y Cynghorydd Martyn Groucutt, yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb yn Sir Fynwy, fod y llywodraeth wedi gwahardd yr iaith yn yr ysgol yn ystod Oes Fictoria.
Wrth drafod “sgandal y Llyfrau Gleision yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg”, dywedodd fod “system lywodraeth Lloegr wedi ei gwneud hi’n anghyfreithlon mewn ysgolion i siarad yr iaith Gymraeg”, a bod “plant oedd yn siarad Cymraeg yn yr ysgol yn cael eu cosbi am wneud hynny” a hwythau ond yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.
Y Llyfrau Gleision
Ond beth oedd y Llyfrau Gleision, ac a wnaethon nhw wahardd y Gymraeg mewn ysgolion?
Adroddiad ynghylch cyflwr addysg yng Nghymru gafodd ei gomisiynu gan y llywodraeth yn 1847 oedd y Llyfrau Gleision, ac fe gafodd ei enw gan fod holl adroddiadau’r llywodraeth gloriau glas.
Yn ôl y Llyfrgell Genedlaethol, roedd yr adroddiad tair cyfrol wedi achosi cryn dipyn o helynt oherwydd “sylwadau sarhaus tri chomisiynydd Anglicanaidd” am yr iaith Gymraeg, anghydffurfiaeth a moesau’r Cymry.
Daeth yr adroddiad yn adnabyddus fel ‘Brad y Llyfrau Gleision’ oherwydd y cysylltiadau negyddol o ran ei effaith a’r iaith Gymraeg.
Yn ôl y Llyfrgell Genedlaethol, ar yr adeg hon y daeth pobol i gredu y byddai addysg, a’r gallu i siarad Saesneg, yn rhoi’r cyfle iddyn nhw wella’u hunain.
‘Welsh Not’
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daeth y ‘Welsh Not’ i fod mewn ysgolion, a hwnnw’n gweld plant gafodd eu clywed yn siarad Cymraeg yn gorfod dal neu wisgo arwydd allan o bren.
Byddai’n cael ei drosglwyddo i blentyn arall pe baen nhw hefyd yn cael eu clywed yn siarad Cymraeg, a byddai’r plentyn anffodus oedd yn dal y darn o bren ar ddiwedd y dydd yn cael ei guro.
Er bod y gosb greulon yn cael ei rhoi gan feistri’r ysgolion, doedd e ddim yn bolisi gan y llywodraeth a doedd cyfraith o ran ei ddefnydd.
Yn ôl Martin Johnes, Athro Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig deall pwysau cymdeithasol y cyfnod, ond mae’n dweud nad yw “siarad Cymraeg mewn ysgolion erioed wedi bod yn anghyfreithlon”.
Mae’r academydd blaenllaw wrthi’n ysgrifennu am hanes y ‘Welsh Not’ a’r iaith Gymraeg mewn addysg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae’n dweud bod rôl y llywodraeth yn hanes y Llyfrau Gleision hefyd wedi cael ei gamddeall.
“Cafodd rhai plant eu cosbi am siarad Cymraeg oherwydd credoau cyfeiliornus y byddai’n gwella eu sgiliau Saesneg,” meddai.
“Cafodd hyn ei yrru gan athrawon unigol.
“Fe ddigwyddodd ar adeg pan oedd ychydig iawn o reolaeth gan y wladwriaeth dros ddulliau dysgu, a dim rheolaeth o gwbl yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
“Doedd e byth yn bolisi llywodraeth y dylai plant gael eu cosbi am siarad Cymraeg neu y dylai’r Gymraeg gael ei gwahardd o’r dosbarth.
“Fodd bynnag, mae’n deg dweud nad oedd y llywodraeth wedi gwneud unrhyw beth i gefnogi dysgu Cymraeg fel pwnc ynddo’i hun cyn y 1890au.”
‘Dim parch at y Gymraeg’
“Fe wnaeth yr adroddiad addysg hwnnw ddadlau mewn gwirionedd y dylai ysgolion ddefnyddio’r iaith Gymraeg er mwyn dysgu Saesneg i blant yn well,” meddai’r athro ynghylch y Llyfrau Gleision.
“Doedd gan y comisiynwyr ddim cariad na pharch at y Gymraeg, ond roedden nhw’n deall yn iawn fod gwahardd y Gymraeg o’r dosbath yn ei gwneud hi’n anodd iawn i blant uniaith Gymraeg ddysgu unrhyw beth o gwbl.”
Dywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol ei fod e wedi amlinellu’r hanes, yn ôl ei ddealltwriaeth ei hun, yn ystod trafodaeth mewn pwyllgor ond ei fod e’n “hapus” i gael ei gywiro.
“Ro’n i’n siarad oddi ar dop fy mhen a dyna ges i fy nysgu pan wnes i fy hyfforddiant i ddysgu ym Mangor yn 1971,” meddai’r cyn-athro ysgol uwchradd a swyddog addysg.
“Os yw unrhyw un yn cwestiynu hynny, dw i’n hapus iawn i ddweud fy mod i wedi cael fy nghywiro gan y bedwaredd gwladwriaeth ac athro Hanes Cymru, ond y pwynt o hyd yw na chafodd yr iaith Gymraeg ei hybu mewn ysgolion ar yr adeg honno.”