Mae deunaw o bobl wedi cael eu dedfrydu am gyfanswm o fwy na 83 blynedd am eu rhan yn yr anhrefn Mayhill yn Abertawe y llynedd.
Cafodd 17 o ddynion ac un fenyw rhwng 18 a 45 oed eu dedfrydu am derfysg yn Llys y Goron Abertawe heddiw (Rhagfyr 19) am eu rhan yn y digwyddiad ar Fai 20 2021.
Bydd tri pherson arall yn cael eu dedfrydu am eu rhan fory (Mawrth, Rhagfyr 20).
Cafodd ceir eu rhoi ar dân a ffenestri tai eu torri yn ystod yr anhrefn, a ddechrau’r flwyddyn fe wnaeth Heddlu De Cymru ymddiheuro ar ôl i adolygiad feirniadu eu hymateb i’r terfysg.
‘Codi ofn go iawn’
Wrth siarad wedi’r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gareth Jones o Heddlu De Cymru bod y digwyddiad yn “enghraifft o drais eithafol ac yn ymdrech amlwg i dorri’r gyfraith ac i ymosod yn fwriadol ar yr heddlu a fynychodd”.
“Cododd y niferoedd a gymerodd ran ofn go iawn ar y trigolion lleol a welodd yr hyn a ddigwyddodd neu yr achoswyd difrod i’w heiddo yn ystod yr anhrefn,” meddai.
“Mae sawl ffactor wedi cyfrannu at lwyddiant yr ymchwiliad a’r erlyniad hwn.
“Gwnaeth aelodau o’r cyhoedd ddatganiadau tystion a chawsom ddeunydd fideo oddi ar ffonau symudol neu gamerâu drws gan sawl aelod arall o’r cyhoedd.
“Roedd yr ymchwiliad a ddeilliodd o hynny yn drylwyr ac yn fanwl, a llwyddwyd i gyflwyno’r dystiolaeth mewn ffordd a ddarbwyllodd y llys i gollfarnu’r unigolion hyn.
“Mae’r dedfrydau a roddwyd i’r unigolion hyn yn adlewyrchu difrifoldeb yr hyn a wnaethant fis Mai diwethaf.
“Daethant at ei gilydd, yn cario arfau, ffyn a brics heb feddwl o gwbl am y trigolion na’r canlyniadau angheuol posibl a allai fod wedi deillio o’u gweithredoedd.
“Mae’n bleser gennyf ddweud ein bod wedi cael cyfiawnder a gobeithio y bydd y dedfrydau a roddwyd heddiw yn rhoi digon o amser i’r unigolion hynny a oedd yn benderfynol o fod yn rhan o’r anhrefn fyfyrio ar yr hyn a wnaethant.”
Cafodd y dedfrydau canlynol eu rhoi yn Llys y Goron Abertawe:
· Christopher Munslow, tair blynedd a hanner;
· William Smolden, tair blynedd a hanner;
· Kieran Smith, pedair blynedd mewn sefydliad troseddwyr ifanc;
· Joshua Cullen, pum mlynedd a hanner;
· Connor Beddows, pedair blynedd a thri mis;
· Lewis James, pum mlynedd;
· Niamh Cullen, dwy flynedd ac wyth mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc;
· Kian Hurley, chwe blynedd a naw mis;
· Michael Parsons, chwe blynedd a thri mis;
· Mitchell Meredith, pum mlynedd a phedwar mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc;
· Jahanzaib Malik, pedair blynedd;
· Ryan Owen, pedair blynedd;
· Dean Price, pum mlynedd a hanner;
· Tyrone Langan, pum mlynedd a thri mis;
· Aaron Phillips, chwe blynedd a thri mis;
· Ryan Sarsfield, pedair blynedd;
· Paul Jones, pedair blynedd a hanner;
· Keiron Argent, tair blynedd a dau fis mewn sefydliad troseddwyr ifanc.