Mae Heddlu’r De wedi ymddiheuro ar ôl i adolygiad feirniadu eu hymateb i anhrefn yn ardal Mayhill yn Abertawe y llynedd.
Yn ystod yr anhrefn torfol fis Mai y llynedd, cafodd ceir eu rhoi ar dân a ffenestri tai eu torri.
Daeth hynny yn syth ar ôl gwylnos ar gyfer bachgen 19 oed, Ethan Powell, a fu farw ychydig ddyddiau ynghynt.
Yn ddiweddarach, cafodd o leiaf saith o bobol ifanc eu harestio am eu rhan yn y digwyddiad.
Nododd yr adroddiad dilynol bod yr heddlu wedi gwrthod dau gais i anfon uned adfer trefn i’r digwyddiad, gan adael trigolion mewn ofn ac “heb eu hamddiffyn”.
Fe wnaeth nifer o drigolion a gafodd eu heffeithio adrodd eu profiadau ar gyfer yr adolygiad annibynnol.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod “methiannau sylweddol” yn ymateb yr heddlu, ond fod y cyfrifoldeb troseddol yn llwyr yn nwylo’r oedolion ifanc a’i sbardunodd.
Adroddiad
Dywedodd yr adolygiad fod “cyfnod hir pan oedd trigolion Heol Waun Wen mewn perygl, a heb eu hamddiffyn gan yr heddlu”.
Roedd yr adroddiad hefyd yn awgrymu y dylai strwythurau ymateb mwy cadarn fod wedi cael eu hanfon i ymdrin â’r digwyddiad – gan nodi mai 20 swyddog yn unig oedd wedi ymateb yn gynnar.
Mae’n debyg bod swyddogion oedd yn bresennol wedi ceisio cael cymorth uned yr heddlu i ddelio â’r digwyddiad, ond cafodd hynny ei wrthod ddwywaith.
Dywedodd yr adroddiad hefyd y dylai’r terfysgoedd fod wedi’u categoreiddio’n “hollbwysig” yn gynt.
“Roedd yr emosiwn amrwd a’r trallod yn amlwg wrth i brofiadau unigolion o’r noson honno gael eu hail-fyw,” meddai’r adroddiad.
“Roedd rhai o’r safbwyntiau a gafodd eu rhannu gyda ni yn cynnwys y canlynol: ‘Fe wnaeth yr heddlu ein siomi‘, ‘wnaethon nhw ddim ein hamddiffyn’, ‘doedden nhw ddim yno i ni pan oedden ni eu hangen nhw’ a ‘dydyn ni ddim yn deall pam na wnaethon nhw unrhyw beth’.”
Ymateb yr heddlu
Wrth ymateb i ganfyddiadau’r archwiliad, fe wnaeth Prif Gwnstabl Heddlu’r De, Jeremy Vaughan, “ymddiheuro wrth bawb a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad, yn enwedig y trigolion lleol a gafodd eu poenydio gan y rheiny oedd yn gyfrifol”.
“Fe wnaethon ni fethu â gweithredu yn ddigon cyflym ar y noson, ac am hynny rwyf wir yn sori,” meddai.
“Rydyn ni wedi gwneud rhai gwelliannau ar unwaith i’n harferion gweithredol yn dilyn y digwyddiad, yn enwedig wrth ymdrin â gwybodaeth o gwmpas digwyddiad sy’n gwaethygu a sut byddwn ni’n galw ar adnoddau o ledled De Cymru a thu hwnt yn gyflymach.”