Mae Cymru’n dathlu’r diwydiant cynhyrchu a manwerthu porc gyda chyfres o ddigwyddiadau arbennig yr wythnos hon.

Mae Wythnos Porc o Gymru yn ddathliad blynyddol a phob blwyddyn, mae thema unigryw i’r dathliadau.

‘Pa mor bell yw eich fforc o’n porc?’ yw’r thema eleni, a bydd nifer o ddigwyddiadau yn arddangos maint y daith fwyd a lle mae modd prynu porc sy’n deillio o ffynonellau lleol.

Wynebau adnabyddus

Ymhlith yr enwau cyfarwydd sy’n cymryd rhan yn y dathliad mae’r cyn-chwaraewr rygbi Scott Quinnell, a’r cyflwynwyr coginio Samantha Evans a Shauna Guinn.

Mewn digwyddiad arbennig, bydd y ddwy gogyddes, sy’n cael eu hadnabod fel deuawd Hang Fire, yn dangos i gyn-wythwr tîm rygbi Cymru sut mae coginio gwahanol ryseitiau porc.

“Rydym ni’n falch iawn o fod yn rhan o Wythnos Porc o Gymru eleni,” meddai Sam Evans.

“Mae coginio cynhwysion ffres, lleol, o safon, gyda rhinweddau cynaliadwyedd rhagorol yn bwysig iawn i ni, felly mewn gwirionedd, mae porc yn ticio ein bocsys i gyd!

“Rydym ni wedi creu pryd anhygoel o tomahawks porc gyda salsa verde o India’r Gorllewin ac mae Scott Quinnell yn mynd i’n helpu i wneud y pryd mewn dosbarth meistr unigryw.

“Byddwn yn dangos i chi (a Scott!) pa mor hawdd yw paratoi a choginio porc a’ch cyflwyno i flasau cyffrous.”

Cyfyngu milltiroedd bwyd

Mae ymchwil yn dangos bod gwerthiant cynnyrch cig moch ledled y Deyrnas Unedig 15% yn uwch yn 2021 nag yn 2019.

Ymhlith y rhai sy’n cynhyrchu porc mae Pippa a Dafydd Knight o gwmni Cig Dulas yn Aberhosan ger Machynlleth.

“Mae’n wych gwybod fod ein cymuned leol, a’r economi leol, yn elwa o’n porc,” medden nhw.

“Rydym yn cadw amrywiaeth o foch. Mae gennym fridiau masnachol, brodorol prin a rhai mewn perygl, ac rydym yn teimlo ein bod yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu’r bridiau hynny.

“Mae gan ein cwsmeriaid fynediad at gynnyrch ffres o ansawdd uchel ar garreg eu drws.

“Rydym hefyd yn cyflenwi ein canolfan arddio leol, siop fferm a chaffi felly rydym yn cyfyngu’r milltiroedd bwyd yn fawr, gan ei wneud yn fenter ecogyfeillgar.”

‘Persbectif newydd ar siopa wedi gwawrio’

Mae Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad Hybu Cig Cymru, yn nodi bod y diwydiant ffermio wedi “rhoi hwb mawr ei angen” i’r economi leol yn y blynyddoedd diwethaf.

“Mae ein ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a busnesau manwerthu yng Nghymru wedi dangos gwytnwch a phenderfyniad diwyro i gadw ein diwydiant porc i ffynnu, ac yn wir, i’w weld yn mynd o nerth i nerth,” meddai.

“Mae Wythnos Porc o Gymru yn ddathliad gwych o gynnyrch eithriadol, ond heb holl ymdrech y rhai sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi, ni fyddai mor arbennig.

“Rwy’n credu bod persbectif newydd ar siopa wedi gwawrio, gyda defnyddwyr naill ai’n archebu eu porc yn uniongyrchol gan y cynhyrchydd neu’n ymweld â’u siop gigydd leol.

“Rwy’n gobeithio y bydd y ffordd haws, ecogyfeillgar hon o siopa sy’n fuddiol yn economaidd yn aros gyda ni am flynyddoedd i ddod.

“Ond mater i’r defnyddiwr yw dewis hyn yn ymwybodol fel y ‘norm’ ac nid yn unig ei ystyried yn duedd neu allan o reidrwydd, oherwydd y newidiadau yn ein bywydau bob dydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.”