Mae gwerth tua £2.1bn o anrhegion gwastraff wedi eu rhoi eleni – a’r anrhegion hynny ddim yn cael eu gwerthfawrogi na’u cadw.
Ymysg y ‘camgymeriadau’ mwya’ y mae dilladach ac ornamentau.
Ar gyfartaledd, fe fydd pob oedolyn yng ngwledydd Prydain wedi derbyn dau anrheg nad ydyn nhw ddim balchach ohonyn nhw eleni. Yn ôl gwefan Gumtree, gwerth yr anrhegion gwastraff ydi £43.50.
Mae un o bob pump o brynwyr anrhegion wedi gwneud camgymeriad, yn ôl yr ymchwil.
Mae un o bob deg yn beio cydweithwyr am brynu anrheg cwbwl anaddas iddyn nhw, ac mae 9% yn dweud mai eu mamau-yng-nghyfraith sydd wedi tramgwyddo.