Mae’r pwyllgor sy’n pennu pobol o ba oed sy’n cael gwylio ffilmiau yng ngwledydd Prydain, yn cael eu bombario gyda chwynion am ffilm… sydd ddim yn bod!

Mae sïon wedi mynd ar led fod yna fersiwn ffilm ar droed o’r ddrama ‘Corpus Christi’ sy’n portreadu Iesu Grist a’i ddisgyblion fel dynion hoyw.

Dyna pam fod bwrdd y British Board of Film Classification (BBFC) eisoes wedi derbyn cannoedd o gwynion.

Mae’r ddrama gan Terrence McNally wedi’i lleoli yn yr Unol Daleithiau yn ein dyddiau ni, ac mae’n delio â mater dadleuol priodas hoyw. Dydi’r ddrama ddim wedi ei throi’n ffilm.

“Eleni, eto, am ba bynnag reswm, mae yna gynnydd wedi bod yn nifer y bobol sydd wedi bod yn ysgrifennu atom ni ac yn gofyn i ni wahardd y ffilm gableddus hon,” meddai llefarydd ar ran y BBFC.

“Ond dyw’r ffilm ddim yn bod.”