Fe fydd y Lotri Genedlaethol yn gwneud 25 o bobol yn filiwnêrs, trwy gynnal raffl arbennig Nos Galan.
Mae’n dilyn yr un patrwm â ddoe, pan ddaeth 25 o hap-chwaraewyr yn filiwnyddion trwy ennill £1m yr un.
“Fe lwyddodd raffl ddoe i roi’r eisin ar gacen Nadolig 25 o bobol,” meddai llefarydd ar ran y Lotri Genedlaethol.
“Mae’n werth chwilio a chwalu trwy’r bwndeli o bapur lapio, er mwyn gwneud yn siwr fod eich ticed gennych chi… rhag ofn eich bod chi wedi ennill!”