Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw’n rhoi £1m o’r neilltu ar gyfer datblygu cwmnïau yn ymwneud â’r diwydiant gofod.

Fe fydd y gronfa ar gael er mwyn rhoi cefnogaeth i gwmïau sy’n ymsefydlu yn Harwell, Swydd Rhydychwn, lle mae yna grynhoad o fusnesau sy’n ymwneud â’r gofod.

Fe gafodd Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ei sefydlu ar y parc busnes yno yn 2009. Erbyn hyn, yno y mae’r pencadlys sy’n cadw llygad ar faterion yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd.

Yn ôl ystadegau’r llywodraeth, mae’r diwydiant gofod yn cyfrannu tros £9bn bob blwyddyn tuag at economi gwledydd Prydain. Y nod, meddai’r llywodraeth, ydi cynyddu gwerth y diwydiant i £30bn erbyn y flwyddyn 2030.