Mae BBC Cymru yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i S4C beidio ag ail-ddarlledu pennod neithiwr o Pobol y Cwm, sy’n cael ei gynhyrchu gan y Gorfforaeth.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi gofyn i’r bennod gael ei thynnu oddi ar yr awyr ac oddi ar wefan Clic ar y sail fod y bennod yn mynd yn groes i ganllawiau’r BBC ac Ofcom.

Maen nhw wedi cael eu condemnio’n hallt gan wleidyddion o bleidiau eraill gyda’r Ceidwadwyr yn dweud ei bod yn “ffars”.

Y cefndir

Roedd y bennod neithiwr yn cynnwys trafodaeth ar ddifa moch daear er mwyn rheoli dicâiu mewn gwartheg.

Dywedodd cymeriad Cadno yn y bennod: “Does gan y llywodraeth hyn ddim o’r asgwrn cefn i sortio hyn mas unwaith ac am byth. Na beth sy’n hala ni ffermwyr yn benwan.

“Mae’r haint yn cael ei gario biti’r lle gan foch daear. Ma isie difa nhw gyd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru:

“Yn dilyn pennod neithiwr o Bobol y Cwm rydym wedi gwneud cwyn swyddogol i’r BBC ac S4C yn dilyn yr hyn y credwn sy’n dor-rheol difrifol o ganllawiau BBC ac Ofcom.

“Rydym wedi gofyn i’r BBC ac S4C weithredu yn gyflym i fynd i’r afael â’r pryderon.

“Mae canllawiau Golygyddol y BBC yn dweud yn glir fod disgwyl i raglenni sicrhau fod ‘pynciau dadleuol’ yn cael eu trin yn ddiduedd. Ni chredwn fod hyn wedi digwydd yn yr achos hwn.”

Ond ni fydd S4C yn tynnu’r bennod oddi ar y sianel nac oddi ar wefan Clic.

“Rydym yn fodlon bod y ddrama yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau sy’n adlewyrchu’r ddadl gyhoeddus am gynlluniau i gael gwared â’r diciâu mewn gwartheg,” meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys.

“Fe fydd pennod neithiwr o’r rhaglen yn cael ei hailddarlledu fel arfer heno am 6.30 ar S4C, ac mae ar gael ar alw ar Clic.”

Ymateb y BBC

“Rydyn ni’n cymryd bob cwyn o ddifri. Rydyn ni’n ymwybodol o’r gwyn hon ac yn ymchwilio i’r sefyllfa ar hyn o bryd.”

Beirniadu’r ymyrraeth

Ond mae nifer o wleidyddion wedi beirniadu ymyrraeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Simon Thomas o Blaid Cymru ar ei gyfrif Twitter pnawn ma: “Gobeithio fod digon o asgwrn cefn da #S4C i wrthod ymyrraeth wallgo Llywodraeth Cymru   i benderfynu ar ba raglenni ni’n cael gweld.”

A dywedodd llefarydd diwylliant y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black: “Rwy’n synnu bod Llywodraeth Cymru yn gallu cyffroi gymaint am opera sebon a dechrau taflu eu pwysau o gwmpas mewn ymdrech i dynnu’r sioe.

“Yn amlwg, does ganddyn nhw ddim parch tuag at y syniad o ryddid barn. Maen nhw’n ymddwyn fel bwlis, mae fel petai Malcolm Tucker o’r ‘Thick of It’ wedi symud i Fae Caerdydd.”

Yn ol llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr, Antoinette Sandbach AC, mae cais y Llywodraeth yn “chwerthinllyd” ac mae wedi galw ar y Llywodraeth i ymddiheuro wrth S4C.

‘Becso yn biti proffit ma ffermwyr’

Yn ddiweddarach yn y bennod o Pobol y Cwm dywedodd cymeriad arall, Gemma, fod “gan fywyd gwyllt yr hawl i fyw.”

“Becso yn biti proffit ma ffermwyr, nage lles eu hanifeiliaid.

“Nhw sy’n gyfrifol am wasgaru TB achos bod nhw’n stoco gormod.”

Dim ond heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi brechu dros 1400 o foch daear yn Sir Benfro. Roedd undebau amaeth wedi galw arnyn nhw i gynnal rhaglen o ddifa moch daear yn lle hynny gan ddadlau mai moch daear sy’n trosglwyddo’r diciau i wartheg.

‘Cadnogate’

Mae’r pwysau gan Lywodraeth Cymru wedi ennyn ymateb ar gyfryngau cymdeithasol, dan yr enw ‘Cadnogate’, ar sail y cymeriad yn hytrach na’r anifail.

Dywedodd y cyn-Weinidog Amaeth Elin Jones, a gyhoeddodd raglen o ddifa moch daear pan oedd yn y llywodraeth:

“Diolch i Lywodraeth Cymru am dynnu fy sylw at Bobol y Cwm. Newydd ei wylio ar @s4clic Peidiwch ei dynnu oddi ar yr awyr na’r we s4c.”