David Cameron
Yn ei ymateb i adroddiad Leveson ar lawr y senedd dywedodd David Cameron y dylid bod yn “amheus o unrhyw ddeddfwriaeth sy’n llesteirio’r rhyddid i fynegi.”
Croesawodd y Prif Weinidog ganfyddiadau’r Ustus Leveson ar foeseg y wasg, ond mynegodd ei amheuaeth am yr angen i ddeddfu ar y broses o reoleiddio’r wasg.
“Am y tro cyntaf byddwn ni’n croesi’r ffrwd ddiadlam, yn cynnwys rheoleiddio’r wasg o fewn cyfraith gwlad.
“Yn y Tŷ hwn, sydd wedi bod yn gaer i ddemocratiaeth ers canrifoedd, dylwn ni feddwl yn ofalus iawn, iawn cyn croesi’r llinell yna,” meddai David Cameron.
Clegg – ‘Dim oedi’
Ond, gan fynd yn groes i Cameron, dywedodd Nick Clegg mewn datganiad ar wahân yn y Senedd ei fod yn awyddus i gyflwyno diwygiadau cyn gynted â phosib ac na ddylid oedi.
Dywedodd: “Mae’n rhaid i ni fwrw mlaen gyda hyn heb unrhyw oedi. Mae dioddefwyr y sgandalau hyn wedi aros yn rhy hir i ni wneud y peth iawn. Rhy hir yn aros am gorff annibynnol i oruchwylio’r wasg y gallen nhw ymddiried ynddo. Rwy’n benderfynol na ddylen ni wneud iddyn nhw aros yn hirach.”
Miliband yn frwd o blaid yr adroddiad
Dywedodd arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan, Ed Miliband, y dylai Tŷ’r Cyffredin “osod ei ffydd yn argymhellion Leveson.”
Dadleuodd o blaid derbyn yr argymhellion “yn eu cyfanrwydd,” gan ddeddfu ar y mater, yn groes i safbwynt cynnar David Cameron ar y pwnc.