Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i achosion o’r frech goch yng Ngorllewin Cymru.
Mae pedwar achos o’r frech goch wedi eu cadarnhau a 12 achos tebygol yn Abertawe, Port Talbot a Hwlffordd.
Cafodd dau driniaeth yn yr ysbyty ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau.
Credir bod yr achosion yn gysylltiedig â phobl fu’n aros mewn gwersyll gwyliau yn Ne Orllewin Lloegr yn ystod ail hanner mis Hydref.
Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA) yn Ne Orllewin Lloegr yn gweithio’n agos gyda’r gwersyll gwyliau i ymchwilio i’r achosion.
Mae llythyrau’n cael eu hanfon i bum ysgol yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio yn eu hysbysu bod y frech goch yn lledaenu.
Mae sesiwn frechu hefyd yn cael ei threfnu ar gyfer yr holl ddisgyblion sydd heb eu brechu yn Ysgol Gyfun Pentrehafod, Abertawe.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni disgyblion mewn ysgolion eraill sydd wedi eu heffeithio i sicrhau bod plant rhwng un ac 16 oed sydd heb gael dau ddos o’r brechlyn MMR i gysylltu â’u meddyg teulu i drefnu eu bod yn cael eu brechu.
‘Clefyd hynod heintus’
Dywedodd Dr Jorg Hoffmann, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy i Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r frech goch yn glefyd hynod heintus a all achosi cymhlethdodau yn cynnwys niwmonia, llid yr ymennydd ac enseffalitis, yn arbennig ymysg plant o dan bum mlwydd oed, y rheiny ag imiwnedd gwan a phlant â deiet gwael. Gall fod yn angheuol mewn achosion prin.
“Bydd llawer o bobl sy’n dal y frech goch yn dioddef gwres, peswch, llygaid coch a thrwyn tynn ac yn teimlo’n anhwylus yn gyffredinol. Mae’r frech sydd yn gochlyd yn ymddangos ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach gan ddechrau ar yr wyneb ac yn lledaenu i weddill y corff dros sawl diwrnod. Fel arfer, bydd pobl yn heintus ychydig ddiwrnodau cyn i’r frech ymddangos hyd at bedwar i bum niwrnod ar ôl i’r frech ymddangos.
“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella’n gyfan gwbl ond mae posibilrwydd prin o gymhlethdodau difrifol yn cynnwys anhwylderau difrifol i’r llygaid, byddardod, niwed i’r ymennydd a hyd yn oed marwolaeth.
MMR
“Os yw eich plentyn yn anhwylus a’ch bod yn amau bod ganddynt y frech goch, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4849. Ni ddylai eich plentyn fynd i’r ysgol na’r feithrinfa am bum niwrnod ar ôl i’r frech ymddangos.
“Gellir osgoi’r frech goch trwy ddefnyddio’r brechlyn hynod effeithiol yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR).
“Gall rhieni ddiogelu eu plant yn hawdd trwy eu brechu gyda’r brechlyn MMR. Ar ôl cael dau ddos o’r MMR, bydd 99 y cant o blant wedi eu diogelu yn erbyn y frech goch.”
Dylai plant gael eu dos cyntaf yn 12-13 mis oed a’r ail ddos pan fyddant tua thair blwydd a phedwar mis oed.