Mae dirprwy gyfarwyddwr Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd wedi croesawu argymhelliad Leveson i sefydlu corff annibynnol i oruchwylio gwaith y wasg.
Dywedodd David English wrth Golwg360 na fyddai cael “golygyddion tabloid yn goruchwylio gwaith golygyddion tabloid eraill” yn gweithio a bod angen cynrychiolaeth o du allan i’r wasg ar y corff.
“Mae’r papurau newydd wedi cael gwybod ers tro eu bod nhw’n yfed yn y ‘last chance saloon’ a bellach maen nhw’n yfed eu diod olaf yno,” meddai David English.
Mae’r blogiwr dylanwadol Guido Fawkes wedi cwestiynu’r gallu i reoleiddio’r wasg gan ddweud,“Nid yw cyfryngau newydd yn adnabod ffiniau, fyddan nhw ddim yn talu sylw i hyn.”
Chris Bryant: ‘Nid yw hunan-reoleiddio yn rheoleiddio o gwbl’
Ar ei gyfrif Twitter dywedodd Aelod Seneddol y Rhondda Chris Bryant fod adroddiad Leveson “wedi creu argraff. Mae angen i’r gyfraith newid. Nid yw hunan-reoleiddio yn rheoleiddio o gwbl.”
Dywedodd Elfyn Llwyd o Blaid Cymru bod yn rhaid i’r Llywodraeth rhoi’r argymhellion ar waith ar frys.
“Mae’r wasg yn un o nifer o sefydliadau sydd wedi colli eu henw da mewn blynyddoedd diweddar yn sgil sgandal, llygredd ac arfer anghyfreithlon.
“Yn union fel yn achos y banciau, mae difrod mawr wedi’w wneud i ymddiriedaeth y cyhoedd ac mae angen diwygio sylweddol er mwyn adfer hyder yn y wasg.
“Mae Plaid Cymru’n awyddus i weld corff rheoleiddio newydd grymus sy’n gweithio er lles y cyhoedd. Mae’r PCC wedi bod yn gwbl aneffeithiol a biwrocrataidd a byddai model amgen yn cynnig proses gyflymach a symlach o wneud cwynion.
“Credwn y byddai rheoleiddio gan y wladwriaeth neu’r diwydiant ei hun yn methu darparu gwir atebolrwydd. Mae’r ddau sefydliad yn craffu ei gilydd yn aml sy’n codi’r hen gwestiwn ‘Pwy sy’n gwylio’r gwylwyr?’.
“Byddai rhoi pwyslais ar natur annibynol y corff rheoleiddio yn amddiffyn rhyddid mynegiant a rhyddid y wasg tra’n sicrhau safonau uchel o newyddiadura… Mae’n hollbwysig fod y Llywodraeth yn rhoi’r argymhellion hyn ar waith ar frys.”
Hunt yn ‘ddyn da’
Dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Maldwyn ei fod yn croesawu dyfarniad Leveson fod Jeremy Hunt yn “ddyn da.”
“Mae e,” meddai Glyn Davies. “Gobeithio bydd y rheiny a ymosododd arno’n ymddiheuro.”
Ychwanegodd Glyn Davies ei fod wedi ei daro gan ddos o salwch a’i fod yn mynd i fethu datganiad David Cameron ar Leveson.
“Rwy’n gwadu’n llwyr fy mod wedi mynd adre mewn siom dros benderfyniad Nick Clegg i wneud datganiad ar wahân,” trydarodd.
Papurau lleol
Mae’r Arglwydd Ustus Leveson wedi canmol cyfraniad papurau rhanbarthol a lleol i’w cymunedau ac wedi dweud y byddai dirywiad y wasg leol yn golled i ddemocratiaeth.
“Er bod cwynion am gywirdeb a phethau felly yn cael eu gwneud yn erbyn papurau lleol, nid yw’r cwynion am ddiwylliant, ymarferion a moeseg y wasg sydd wedi cael eu codi yn yr Ymchwiliad yma yn eu heffeithio nhw,” meddai’r adroddiad.