Cwmni niwclear yn cythruddo aelodau CyI – stori fideo
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn meddiannu arwydd Magnox, un o noddwyr Eisteddfod yr Urdd
Mae gan y Cwtch Cymraeg, sef pafiliwn ar gyfer digwyddiadau llenyddol a ieithyddol Eisteddfod yr Urdd, noddwyr newydd eleni, sef Magnox Cyf – contractwyr rheoli a gweithredu safleoedd Niwclear Trawsfynydd a Wylfa.
Mae’r datganiad wedi cythruddo aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy’n trefnu cerdyn post gwrth-niwclear at Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru o dan yr enw ‘Callia Carwyn’.
Dywedodd Aled Sion, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, ei fod yn “falch iawn fod Magnox wedi dangos eu cefnogaeth” at Eisteddfod yr Urdd.
Meddai hefyd “na fyddai’r Eisteddfod yn gallu cynnig hanner y cyfleoedd gwych yma heb eu cymorth parod ac rydym yn ddiolchgar iawn i Magnox am eu nawdd.”
Mae’r fideo yn dangos aelodau Cymdeithas yr Iaith yn meddiannu arwydd Magnox.
Mae Cymdeithas yn cynnal digwyddiad i dynnu sylw at gerdyn post ‘Callia Carwyn’ yn ei stondin ar faes yr Urdd am 2yp, gyda Richard Jones, Menna Machreth a Dr Carl Clowes ymhlith y siaradwyr.
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.
“Gyda’n gilydd, gallwn ni gyd edrych ymlaen at y flwyddyn newydd gyda gobaith,” meddai Eluned Morgan
2 sylw
Jones
Eithaf pathetic yn fy marn i.
Dwi’m cweit yn deall beth yw ddadl Cymdeithas yma.
1. Os mai yn erbyn Wylfa B dio, wel digon teg. Ond oherwydd nid Magnox fydd yn ei adeiladu, rhedeg, nai ddad-gomisiynu dwnim pam bod nhwn targedu Magnox. Horizon mae nhw angen ei dargedu.
2. Os mai am drawfynnydd/Wylfa “A” wel dwi’m yn deall pam. Mae’r rhain yma yn barod ag ar fin gae. Does nam byd fedrwn ni wneud nawr hefo’r gwastraff yma. Yr amser i brotestio oedd yn y 50au/60au. Felly gan bod bod nhw yma yn barod- pam ddim cymeryd ei airian?
A dyma eto sydd yn broblem hefo Cymdeithas. Dydy protests nhw ddim mor glyfar ag oedden nhw yn y gorffennol. Di nhw ddim yn meddwl pwy mae nhw’n targedu.
Siôn ap Lyn
Mae hwn yn drist iawn. Mae’r Gymdeithas wedi cyflawni llawer o bethau da drostom ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n amlwg oddiar wyneb y gwr ifanc gyda sbectol taw gêm yw hyn, nid protest. Mae’r ffaith taw dim ond llond dwrn o fobol drodd i fyny at eu ‘protest’ yn dweud cyfrolau. Mae’n hen bryd i’r Gymdeithas camu i’r 21ain ganrif, newid ffocws ac eistedd i lawr gyda busnesau mawr i drafod a chytuno ar ffyrdd o ariannu prosiectau werh chweil i hybu’r iaith yn lle dal i fyw yn y 70au. Cywilyddus!