Mae parti pen-blwydd wedi ei gynnal ym Mhentref Mr Urdd ar faes Glynllifon heddiw, a daeth nifer o blant ac oedolion yno i ddathlu 90 oed y mudiad.

Fe gychwynnodd y dathliadau ym mis Ionawr, ond heddiw fu’r dathliad mwyaf ar faes yr Urdd gyda chacen fawr.

Dydi Mr Urdd ei hun, wrth gwrs, ddim mor hen â’r mudiad ieuenctid a sefydlwyd gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922. Creadigaeth y dyn PR, Wyn Melville Jones, oedd Mr Urdd, yn y 1970au.

‘‘Yr oedd hi’n neis gweld cannoedd o blant yma i ddathlu pen-blwydd yr Urdd yn 90 oed.  Er ei bod yn wlyb tu allan, yr oedd yr achlysur yn cael ei ddathlu tu fewn, felly doedd dim rhwystr ar yr hwyl a sbri,’’ meddai Manon Wyn, Swyddog Marchnata yr Urdd.