Fydd yna ddim seremoni i benodi Bardd Plant newydd yn Eryri eleni – a hynny am fod y Bardd Plant a benodwyd y llynedd wedi cael y gwaith am ddwy flynedd.
Ond fe fydd perfformiad o gerdd a gafodd ei chreu ar y cyd gan Eurig Salisbury a phlant Ysgol y Gorlan, Tremadog ac Ysgol Pentreuchaf ger Pwllheli, ar lwyfan y Pafiliwn ar ddiwedd cystadlu’r pnawn heddiw.
“Mi adroddes i chwedl Taliesin gyda’r plant,” meddai Eurig, sy’n dod o Langynog ger Caerfyrddin ond yn byw yn Aberystwyth erbyn hyn.
“Wnes i eu hannog nhw i greu eu cerddi eu hunain ar y testun ‘Rysait Ceridwen’ – hynny yw, yr holl bethe afiach a hyfryd y gallai hi fod wedi’u rhoi yn y pair i wneud yr hud.
“Mi anfonodd y plant y cerddi ata’ i, ac mi es i ati i lunio cerdd newydd sbon yn seiliedig are u syniadau nhw. Hon fydd y gerdd fyddwn ni’n ei darllen ar y llwyfan – dim byd rhy anodd, jyst eu bod nhw’n cael rhywfaint o hwyl.”
Bardd Plant prysur
Mae Eurig Salisbury wedi cael blwyddyn gynta’ brysur yn y swydd, ers cymryd yr awenau gan Dewi Pws yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe y llynedd.
“Dw i erioed wedi bod mor brysur! Nac mor hapus, mewn gwirionedd,” meddai. “Mae teithio’r wlad fach enfawr hon wedi bod yn brofiad bythgofiadwy, a’r peth gorau yw fod blwyddyn arall i ddod.
“Dw i’n edrych ymlaen i drio rhai pethau newydd gyda’r plant – fel cyflwyno’r gynghanedd, a sôn am farddoniaeth wych yr Oesoedd Canol gyda chymorth fideo rhyngweithiol newydd sbon.”