Rhai o stondinau bwyd Glynllifon
Mae’r profiad “Seisnigaidd” o brynu bwyd ar faes Eisteddfod yr Urdd yn tanseilio holl waith da y mudiad a’r eisteddfod, yn ôl cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd wedi bod yn cwyno am ddiffyg arwyddion a staff dwyieithog ar stondinau bwyd Glynllifon.
Yn ôl Bethan Williams, mae’r ffaith fod eisteddfodwyr a phobol ifanc yn methu â gwneud rhywbeth mor sym lag archebu bwyd yn Gymraeg, yn gwrthbrofi’r hyn y mae athrawon a gwirfoddolwyr yn ceisio ei ddangos – sef bod yr iaith yn iaith fyw y tu hwnt i waliau’r dosbarth.
“Does yna ddim esgus pam na all y stondinau bwyd gael staff sy’n siarad Cymraeg ar gyfer y swyddi hynny lle maen nhw’n ymwneud yn uniongyrchol gyda’r cyhoedd,” meddai Bethan Williams.
“R’yn ni wedi cwyno yn y gorffennol, r’yn ni wedi cysylltu gyda rhai o’r cwmnïau, ac r’yn ni wedi bod yn trafod gyda’r Urdd cyn yr Eisteddfod hon… mae’n siomedig iawn i weld cymaint o’r stondinau bwyd ddim yn parchu’r rheol iaith sydd yn rhan o’u cytundebau.”