Y cyflwynydd John Hardy yw’r diweddaraf i glywed na fydd yn rhan o’r rhaglenni cylchgrawn newydd sy’n cymryd lle Wedi 3 a Wedi 7 ym mis Mawrth.

Cadarnhaodd Cadeirydd Gweithredol Tinopolis wrth Golwg 360 y prynhawn yma na fyddai John Hardy yn cyflwyno’r rhaglenni cylchgrawn dyddiol ar ôl 1 Mawrth eleni, wrth i’r cwmni lansio’r rhaglenni ar eu newydd gwedd.

Yn ôl Ron Jones, dim ond y diweddaraf ar y rhestr o gyflwynwyr nad yw S4C yn dymuno eu gweld yn arlwy’r rhaglenni newydd yw John Hardy.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Tinopolis y byddai’r cyflwynwyr Meinir Gwilym a Gerallt Pennant hefyd yn colli eu gwaith fel rhan o’r newidiadau – ac y byddai swyddfa’r cwmni yng Nghaernarfon yn cau.

“Does dim byd mwy wedi digwydd nag o’r blaen,” meddai Ron Jones wrth Golwg 360 heddiw.

“Doedd John ddim yn un o’r rhai roedd S4C moyn ar y rhestr.”

Cadarnhaodd S4C wrth Golwg 360 y prynhawn ’ma fod trafodaethau wedi cael eu cynnal ynglyn â phwy fyddai’n cyflwyno’r rhaglenni newydd.

“Mae trafod cyflwynwyr yn arferol rhwng S4C a’r cwmni fel rhan o’r broses o gomisiynu,” meddai llefarydd ar ran y Sianel.

“Ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno’r tîm newydd yn swyddogol cyn bo’ hir.”