Mae S4C wedi datgelu y bydd swyddi’n diflannu fel rhan o newidiadau i strwythur comisiynu rhaglenni’r sianel dan arweiniad y Prif Weithredwr newydd, Ian Jones.

Lai na phythefnos ers i Ian Jones gymryd yr awennau, cafodd nodyn ei ddosbarthu i staff y sianel heddiw yn eu hysbysu o’r bwriad i dorri’r grŵp presennol o wyth comisiynydd ac un pennaeth comisiynu, gan olygu colli pedair o swyddi.

Bydd y tîm comisiynu newydd yn cynnwys un Cyfarwyddwr Cynnwys, a phedwar Comisiynydd Cynnwys.

Yn ôl Ian Jones, fe fydd y strwythur newydd yn golygu bod penderfyniadau ar gyfer comisiynu yn cael eu gwneud gan bob Comisiynydd Cynnwys unigol, gyda sêl-bendith y Cyfarwyddwr Cynnwys.

Dywedodd y Prif Weithredwr newydd heddiw y byddai’r system newydd yn golygu bod syniadau’n gallu cael eu gweithredu’n gyflymach nag ydyn nhw dan y drefn bresennol.

Ar hyn o bryd mae penderfyniadau comisiynu yn cael eu gwneud ar y cyd gan yr holl dîm comisiynu.

‘Ymateb i ddisgwyliadau cynulleidfa’

“Bydd y drefn newydd yn galluogi S4C i ymateb yn gyflym i syniadau gan roi ystyriaeth fanwl i ddisgwyliadau ein gwylwyr a defnyddwyr,” meddai Ian Jones.

“Dwi’n edrych ymlaen at gyflwyno strwythur newydd fydd yn hybu creadigrwydd ar draws y maes darlledu a chyfryngau digidol yng Nghymru a thu hwnt.”

Dywedodd mai amcan y strwythur newydd fyddai creu patrwm lle mae “comisiynwyr unigol yn comisiynu cynnwys a gwasanaethau digidol aml-lwyfan.

“Bydd y Cyfarwyddwr Cynnwys a’r unigolion a benodir yn ddolen gyswllt allweddol gyda’r sector gynhyrchu a BBC Cymru ac yn hybu cydweithio ar draws y sector greadigol er mwyn creu cynnwys bydd yn feiddgar ac uchelgeisiol,” meddai.

Mae S4C yn dweud y bydd y swyddi newydd yn cael eu hysbysebu yn fewnol ac yn allanol yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Cadarnhaodd S4C hefyd y bydden nhw’n ymgynghori gyda’r unigolion sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y newidiadau.