Mae’r awdurdodau cyhoeddus gan gynnwys y Parciau Cenedlaethol, y cynghorau sir a’r heddlu’n haeddu pob clod am wneud eu gorau i gadw ymwelwyr draw o gefn gwlad Cymru’r wythnos yma.
Mae’r golygfeydd y penwythnos diwethaf o’r miloedd o ffyliaid anghyfrifol yn heidio yma wedi cythruddo llawer ohonom, a pheri inni deimlo o dan warchae.
Y flaenoriaeth i bawb ohonom ar hyn o bryd wrth gwrs ydi cadw’n pobl yn iach, a chymryd pa bynnag gamau sydd eu hangen er mwyn sicrhau hynny.
Mi ddaw yna adeg fodd bynnag pan fydd angen inni feddwl yn ddyfnach am ddyfodol ein hardaloedd ac ystyried yr achosion sydd wrth wraidd y mathau o olygfeydd a welsom yn Eryri ar ac hyd a lled arfordir Cymru.
Ac mi fydd hi’n amhosibl i unrhyw ddadansoddiad gwrthrychol o’r sefyllfa anwybyddu’r cwestiwn a ydi twristiaeth wedi mynd yn fwystfil sydd allan o bob rheolaeth mewn sawl rhan o Gymru.
Mae’n wir, wrth gwrs, y bydd yna fusnesau sy’n dibynnu ar ymwelwyr wedi cael eu taro’n arbennig o galed. Ac yn sicr, mi fydd llawer ohonon nhw’n rhai a fydd yn haeddu help gan y llywodraeth i’w codi’n ôl ar eu traed.
Mae angen inni feddwl o ddifrif, er hynny, i ba raddau mae arnom eisiau gweld y diwydiant yn cael ei ail-godi i’r math o entrychion rydym wedi’i weld dros y blynyddoedd diwethaf. Efallai y byddai gofyn cwestiwn o’r fath yn cael ei weld fel cabledd gan rai pobl ar un adeg. Ar ôl anhrefn yr wythnos ddiwethaf, fodd bynnag, mae’n rhaid i arweinwyr ein cynghorau ymwroli. A gofyn o ddifrif i ba raddau mae’r niferoedd o bobl sy’n dod yma o fudd i dyfodol hirdymor ein heconomi, ein cymdeithas, ein diwylliant a’n hunaniaeth.
Ofnau di-sail
Mi fyddwn ni’n sicr o glywed pryderon mawr yn cael eu mynegi gan bob math o fusnesau a chyrff cyhoeddus na fydd cymaint o ymwelwyr yn dod yn ôl.
Mae ofnau o’r fath yn hurt o ddi-sail. Y gwrthwyneb yn llwyr ydi’r perygl y byddwn ni’n ei wynebu. Mi fydd cannoedd ar gannoedd o filoedd o bobl yn ninasoedd Lloegr wedi diflasu ar ôl misoedd o fod adref. Mae’n gwbl bosibl na fydd mor hawdd iddyn nhw fynd ar wyliau tramor – ac mae’n debygol iawn y bydd llawer yn teimlo’n llai mentrus ac yn fwy cyndyn o wneud hynny prun bynnag. Fydd dim angen unrhyw anogaeth arnyn nhw i heidio yn eu miloedd yma.
Nid hyrwyddo’r diwydiant fydd yr her i Lywodraeth Cymru ond yn hytrach ei reoli a’i reoleiddio’n llymach ac yn fwy effeithiol.
Ydi, mae’r diwydiant am barhau i fod yn holl bwysig ein ein heconomi, ac mae’n hanfodol fod Cymry’n manteisio arno. Y nod, fodd bynnag, ydi cael Cymry i hawlio cyfran mwy o’r gacen, yn hytrach na gweld rhagor o dwf dilyffethair.
Amddiffyn Eryri
Does dim dwywaith fod Eryri, yn benodol, yn un o’r ardaloedd hynny lle mae’n hen bryd ffrwyno cryn dipyn ar dwristiaeth. Mae’r ardal wedi cael ei hyrwyddo’n ddidrugaredd dros y blynyddoedd diwethaf fel rhyw fath o ‘adventure playground’ i bobl nad oes ganddyn nhw ronyn o ddiddordeb yn ei hanes a’i ddiwylliant na’i fyd natur cyfoethog.
Mae’r math o olygfeydd o dagfeydd traffig a welsom ar fwlch Llanberis yr wythnos ddiwethaf yn ddigon cyffredin ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Mae angen symud pwyslais delwedd yr ardal draw oddi wrth anturiaethau awyr agored at le sy’n cynnig llonyddwch a heddwch, a lle mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’i hunaniaeth.
Mae gobaith da y bydd ardaloedd chwareli Gwynedd yn ennill statws treftadaeth byd yn fuan. Bydd hyn yn gyfle euraid i ddyrchafu arwyddocâd y Gymraeg yn hanes y diwydiant a’i gymunedau a’r ardaloedd o’u cwmpas.
Cam cadarnhaol arall y gellid ei gymryd law yn llaw â hyn fyddai rhoi’r gorau’n llwyr i ddefnyddio’r enw estron Snowdonia a marchnata’r ardal fel Eryri yn ddiwahân yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fyddai hyn ddim mor anodd â hynny – byddai i Awdurdod Parc Eryri benderfynu arddel yr enw Cymraeg yn unig yn gallu gorfodi pobl i’w arddel. Byddai hefyd yn anfon neges glir yn tanlinellu pa mor unigryw a gwahanol ydi ei dreftadaeth. Yn union fel mae barddoniaeth Wordsworth yn cael ei hyrwyddo fel rhan hanfodol o holl ddelwedd Ardal y Llynnoedd, felly hefyd a ddylai ddigwydd i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn Eryri. Byddai tynnu sylw at yr ardal fel cadarnle iaith frodorol Ynys Prydain yn ffordd ragorol o farchnata ei hynodrwydd.
Byddai’n sicr yn fodd i ddenu mwy o ymwelwyr deallus a diwylliedig – a llai gobeithio o’r math o Covidiots a welsom o gwmpas yr wythnos ddiwethaf.