Fel mae’n digwydd, dyddiau Mercher a Iau oedd Gorffennaf 17 ac 18 yn y flwyddyn 1839 hefyd. Union 180 o flynyddoedd yn ôl. Ac yn y Trallwng, roedden nhw’n ddiwrnodau pwysig.

Dyna pryd y cafodd 30 o ddynion eu cosbi am gymryd rhan ym mhrotestiadau Pum Diwrnod o Ryddid yn Llanidloes.

Yn y digwyddiadau hynny, fe lwyddodd criw o Siartrwyr i gipio’r dre’ fach yn Sir Drefaldwyn a’i rheoli, mwy neu lai, nes i’r fyddin gyrraedd.

Yn ôl rhai haneswyr, y Siartrwyr oedd mudiad mawr gwleidyddol cynta’r dosbarth gwaith, wrth iddyn nhw ymgyrchu am hawliau, gan gynnwys yr hawl i bleidleisio i bawb (sori, i bob dyn) ac am y bleidlais gudd.

Os felly, mae’n deg hawlio mai’r gwrthryfel bach yn Llanidloes oedd y weithred gynta’ o’i math gan y dosbarth gwaith yn y byd hefyd – yr un mor ddramatig, ond heb fod mor waedlyd, â’r gwrthryfel llawer enwocach yng Nghasnewydd yn ddiweddarach yr un flwyddyn.

Er mai ar hap braidd y datblygodd pethau yn y Llan, roedd yna gynllun y tu cefn iddo ac, yn ôl cyfrol T Islwyn Nicholas (mab Niclas y Glais) am yr helynt, roedd ganddyn nhw hyd yn oed offer i fathu arian er mwyn tanseilio’r drefn gyfalafol.

Gant wyth deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae democratiaeth wedi cyrraedd ei hanterth yn y ras am arweinyddiaeth Plaid Geidwadol ac Unolaethol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Yn lle arwyr Llanidloes, mae gynnon ni Boris Johnson a Jeremy Hunt.

Dyn a wyr beth fyddai gwrthryfelwyr Maldwyn wedi ei wneud o etholiad lle mae dweud celwydd yn cael ei dderbyn. A dweud y gwir, lle mae dweud celwydd yn fantais bendant yn y ras.

Mae’n dangos bod angen mwy na threfn bleidleisio i sicrhau democratiaeth go iawn a’n bod ni ymhell iawn o hyd o dorri gafael yr elît cyfoethog ar ein bywydau ni.

A fyddai arwyr Llanidloes wedi gwangalonni? Rhyfeddu efallai, wfftio aton ni yn derbyn y fath beth – digon posib – a gweithio i sicrhau na fydd y fath beth yn gallu digwydd eto.