Mae adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno gerbron Cabinet Cyngor Gwynedd yr wythnos nesaf (Gorffennaf 23) yn galw am astudio effaith tai haf ar y sir.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio yn benodol at effaith busnesau fel Airbnb ar y farchnad dai yng Ngwynedd.

Mae hefyd yn cyfeirio at reoliadau penodol sydd wedi eu cyflwyno mewn gwledydd eraill i fynd i’r afael ô’r mater, ond bod yna ddiffyg rheoliadau yng Nghymru ar hyn o bryd o ystyried y cynnydd yn nifer y tai sy’n cael eu defnyddio at ddiben gwyliau.

Yn ôl y Cynghorydd Gareth Griffith, aelod o’r Cabinet tros yr Amgylchedd, mae’r diwydiant twristiaeth wedi “esblygu” yn ddiweddar gyda dyfodiad cwmnïau fel Airbnb .

Rheoleiddio?

“Mae’r defnydd cynyddol o dai farchnad agored yn cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau yn cael effaith ar y stoc dai leol sydd ar gael i drigolion Gwynedd ac mae’n anorfod o gael effaith ar brisiau tai yn lleol hefyd,” meddai Gareth Griffith.

“O ganlyniad, rydw i’n awyddus ein bod yn gallu ystyried effaith hyn a gweld pa gamau y dylid eu cymryd ar lefel cenedlaethol a lleol.

“Tra’n cydnabod pwysigrwydd y sector twristiaeth i’r economi yn lleol, mae rhaid i ni ystyried yr effaith ar gyflenwad tai yn lleol.

“Ar hyn o bryd, mae diffyg gwirioneddol yng ngallu cynghorau i ymyrryd wrth i gartrefi llawn-amser gael eu newid yn dai haf neu ar gyfer defnydd gwyliau.”