Mae grŵp o amgylcheddwyr a ddaeth â chanol Caerdydd i stop am dridiau yr wythnos hon wedi ymddiheuro i drigolion y ddinas.

Ers dechrau’r wythnos, bu aelodau o’r Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) yn atal traffig yn Heol y Castell drwy barcio cwch ac eistedd yng nghanol y ffordd.

Fe dawelodd y protestio y tu allan i Gastell Caerdydd brynhawn ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 17), cyn dod i ben yn ffurfiol y tu allan i Neuadd y Ddinas ychydig oriau yn ddiweddarach.

Bwriad y brotest, a oedd yn rhan o ddigwyddiad ehangach ledled gwledydd Prydain o’r enw ‘Gwrthryfel yr Haf’, oedd codi ymwybyddiaeth ynghylch newid yr hinsawdd.

Llythyr agored

Ar ddiwedd y brotest, fe gyhoeddodd yr ymgyrchwyr lythyr agored i holl drigolion y brifddinas.

“Yn ystod y dyddiau diwethaf, rydyn ni wedi atal y ffordd y tu allan i Gastell Caerdydd mewn gweithred o brotest heddychlon,” meddai’r llythyr.

“Rydyn ni’n deall bod hyn wedi achosi trafferthon go iawn, ac rydyn ni wir yn sori am yr anghyfleustra mae hyn wedi ei achosi yn eich bywydau.

“Nid pawb fydd yn cytuno bod yr holl drafferthion wedi bod yn gyfiawn neu’n angenrheidiol, ond rydyn ni’n credu eu bod.

“Dyw ein llywodraethau, ar lefel Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, ddim wedi cymryd y camau angenrheidiol sydd eu hangen i ddiogelu’r miliynau o bobol sy’n cael eu heffeithio ar hyn o bryd, na diogelu eu dyfodol, dyfodol ein plant na dyfodol y Ddaear.

“Mae newid yr hinsawdd a’r gostyngiad presennol mewn bywyd gwyllt yn fygythiad go iawn i’n gwareiddiad ac mae angen gweithredu yn ei erbyn ar unwaith.”