Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gwneud tro pedol a phenderfynu chwifio baner sy’n dathlu mis hanes pobol Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol [LGBT].
Yn ôl Arweinydd y Cyngor maen nhw yn awyddus “i ddangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac i ddathlu amrywiaeth”.
Bu pwysau allanol a phobol yn bygwth protestio yn erbyn penderfyniad gwreiddiol y Cyngor i beidio â chwifio’r faner enfys.
Mewn datganiad ddoe, dywedodd y Cyngor mai dim ond baneri Cymru, Jac yr Undeb a baner y Cyngor a fyddai’n cael eu chwifio y tu allan i’w adeiladau.
Ond yn hwyr neithiwr bu tro pedol, a bydd y faner enfys yn cael ei chwifio dros Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin y penwythnos yma.
Yn ôl Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole o Blaid Cymru, cafodd y penderfyniad gwreiddiol i beidio â chwifio’r faner “ei gamddehongli’n fwriadol at ddibenion gwleidyddol”.
“Cefnogi pobol LGBT”
Yn wreiddiol roedd aelodau Llafur a Phlaid Cymru ar bwyllgor trawsbleidiol y Cyngor ar faterion cyfansoddiadol, wedi pleidleisio “yn unfrydol” i beidio newid y protocol, meddai Emlyn Dole.
“Er bod pwyllgor trawsbleidiol y cynghorwyr wedi penderfynu yn erbyn diwygio protocol baner yr awdurdod, gan orfodi gwrthod rhagdybiol i bob cais am faner, ofnaf fod y penderfyniad wedi cael ei gamddehongli’n fwriadol at ddibenion gwleidyddol, gan awgrymu nad yw Cyngor Sir Gâr yn cefnogi nac yn dathlu aelodau staff a phreswylwyr LGBT,” meddai Arweinydd y Cyngor.
“Nid yw hyn yn wir o gwbl. Er mwyn dileu unrhyw gamddealltwriaeth, ac i ddangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac i ddathlu amrywiaeth, rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion y cyngor i hedfan Y Faner Enfys dros Neuadd y Sir y penwythnos hwn.
“Fe allwn ddychwelyd i’r broses ffurfiol ar gyfer diwygio polisi baneri’r cyngor yn nes ymlaen, ond fel Arweinydd y Cyngor rwyf wedi cymryd y penderfyniad i hedfan Y Faner Enfys yn ystod y deuddydd nesaf fel mynegiant o gefnogaeth Cyngor Sir Gâr i staff a thrigolion yn y gymuned LGBT+.”