Fe allai Theresa May wynebu gwrthryfel yn Nhŷ’r Cyffredin ar fater aros yn yr Undeb Dollau – hyn yn dilyn cyfarfod hir o’r Cabinet i gytuno ar y berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.
Cafodd y cyfarfod wyth awr o hyd ei alw yn Chequers, tŷ’r Prif Weinidog yn Swydd Buckingham, er mwyn ceisio cael cefnogaeth y sawl o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn dilyn adroddiadau bod tensiynau yno.
Ond mae Theresa May bellach yn gorfod wynebu her arall gan Aelodau gwrth-Brexit y meinciau cefn.
Mynnodd Anna Soubry, un o’r gwrthryfelwyr blaenaf, fod ganddi gefnogaeth pleidiau eraill i wneud newidiadau i fesur masnach y Llywodraeth a fyddai’n rhoi’r mandad i’r Deyrnas Unedig greu undeb dollau newydd gyda Brwsel ar ôl gadael.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Cysgodol, Emily Thornberry, bod ei phlaid am weld undeb dollau “sydd mwy neu lai fel” yr un bresennol.
Y pynciau trafod yn Chequers oedd trafod effaith Brexit ar y sector modurol, amaethyddiaeth, masnach ddigidol a dyfodol y bartneriaeth economaidd y mae’r Deyrnas Unedig yn ceisio ei chyrraedd gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Dau arwe
Mae disgwyl i Theresa May amlinellu ei agenda Brexit mewn araith fawr yr wythnos nesaf yn dilyn cyfarfod o’r Cabinet llawn.
Ddydd Llun, fe fydd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn gosod ei stondin yntau ar sut y dylai Brexit weithio.