Mae pentref yn y Cymoedd yn arwain y ffordd mewn ynni glân, wrth iddyn nhw gyflwyno cynlluniau a fydd yn gweld dŵr o hen bwll glo, sy’n cael ei gynhesu’n naturiol, yn cael ei ddefnyddio i wresogi cartrefi, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae pwll glo Caerau ger Penybont-ar-Ogwr wedi bod ynghau gau ers y 1970au, ond fe fydd prosiect newydd yn golygu y bydd dŵr sydd wedi’i gynhesu yn y pwll gan y ddaear yn cael ei ddefnyddio i wresogi’r pentref cyfagos, sy’n cynnwys 150 o gartrefi, eglwys ac ysgol.
Yn ôl arbenigwyr o’r Arolwg Ddaearegol Prydeinig – sydd wedi bod yn archwilio’r hen bwll – mae disgwyl y bydd tymheredd y dŵr tua 20.6 gradd selsiws – sy’n ddigon cynnes i wresogi adeiladau.
Mae’r Ysgrifennydd dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn y Cynulliad, Lesley Griffiths, heddiw wedi cyhoeddi y bydd £6.5 miliwn o nawdd yn cael ei rhoi i’r prosiect.
Fe fydd hefyd yn derbyn cyllideb ychwanegol o £9.4 miliwn o law Llywodraeth San Steffan; y corff annibynnol, Energy Systems Catapult, a Chyngor Bwrdeistref Penybont-ar-Ogwr.
“Etifeddiaeth ein treftadaeth lofaol”
“Ein dymuniad yw bod ein gwlad yn arwain yn rhyngwladol wrth arloesi mewn ynni carbon isel,” meddai Lesley Griffiths.
“Dyma fodel arloesol o gynhyrchu ffynhonnell lân o ynni adnewyddadwy, sy’n tynnu oddi ar etifeddiaeth ein treftadaeth lofaol.”