Yn yr Unol Daleithiau mae ymchwilwyr yn dweud eu bod nhw gam yn nes at ddatblygu prawf gwaed sy’n gallu sgrinio am ganser.
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol John Hopkins wedi datblygu prawf sy’n gallu sgrinio am wyth math o ganser ac sy’n helpu i adnabod ym mha ran o’r corff mae’r afiechyd.
Mae’r prawf, sy’n cael ei alw’n CancerSEEK, yn edrych am newidiadau yn y gwaed sydd i’w gweld mewn cleifion canser.
Yn ôl y gwyddonwyr, roedd gallu’r prawf i ddarganfod canser yn llwyddiannus mewn 70% o achosion ar gyfartaledd. Roedd yn amrywio o 98% ar gyfer canser yr ofari i 33% i ganser y fron.
Cafodd y prawf ei gynnal ar 1,005 o gleifion gyda gwahanol fathau o ganser.
Dywed y gwyddonwyr ei fod yn gam at ddarganfod canser yn gynt, a fydd yn ei dro yn achub bywydau yn y pendraw.
Mae’r canlyniadau wedi cael eu cyhoeddi yn y cylchgrawn Science.