Arwydd Plaid Cymru
Mae’r Blaid Lafur wedi taro yn ôl yn erbyn honiadau “hysterig” Plaid Cymru fod eu hymgyrchwyr wedi bod yn tynnu arwyddion y blaid i lawr yng Nghaerffili.
Bore ma cyfaddefodd Aelod Seneddol Caerffili, Wayne David, ei fod o wedi tynnu “tua 15” o’r arwyddion Plaid Cymru i lawr yn yr etholaeth.
Honnodd ei fod wedi mynd ati i dynnu’r arwyddion i lawr oherwydd bod nifer “anghyfartal” ohonyn nhw.
Mae ymgeisydd Plaid Cymru, cyn-Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies, wedi galw ar yr heddlu i ymchwilio ac mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod nhw am wneud hynny.
Ond dywedodd y Blaid Lafur prynhawn ma mai ymateb i “gampau anghyfreithlon” Plaid Cymru oedden nhw wrth dynnu’r arwyddion i lawr.
“Mae’r Blaid Lafur yng Nghaerffili wedi derbyn negeseuon gan nifer o bobol sydd wedi eu cythruddo gan godi arwyddion anghyfreithlon Plaid Cymru,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur.
“Cafodd yr arwyddion eu tynnu oddi yno gan y Blaid Lafur, yn dilyn ceisiadau gan drigolion blin, a’u trosglwyddo i’r heddlu fel tystiolaeth o weithredu anghyfreithlon Plaid.
“Daw’r tactegau budr yma ar ôl i Blaid Cymru dreulio wythnosau yn rhoi arwyddion i fyny ar dir preifat. Rydyn ni wedi rhoi gwybod i’r awdurdodau am hyn hefyd.”
Ymateb yr heddlu
Fe fydd Wayne David yn cael ei holi gan yr heddlu heddiw ar ôl honiadau ei fod wedi bod yn tynnu arwyddion i lawr dros benwythnos gŵyl y banc.
Dywedodd yr heddlu wrth Golwg 360 eu bod nhw wedi “derbyn adroddiadau ynglŷn â anghysondebau etholiadol yn ardal Caerffili ac rydyn ni’n ymchwilio iddyn nhw”.
“Fe fyddai’n amhriodol cynnig unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd”.
‘Pwysau’
Dywedodd Ron Davies ei fod wedi clywed gan etholawyr oedd wedi eu “rhoi dan bwysau” gan ymgyrchwyr i dynnu arwyddion Plaid Cymru i lawr.
Roedd llygaid-dystion wedi gweld Wayne David gydag arwyddion yn ei gar, meddai.
“Mae angen ymchwiliad trwyadl gan yr heddlu,” meddai. “Mae’n anodd credu fod Aelod Seneddol wedi bihafio fel hyn, yn enwedig ar ôl y sgandal costau.
“Mae gennym ni dri llygad-dyst gwahanol sy’n dweud eu bod nhw wedi ei weld â arwyddion Plaid Cymru ac rydyn ni wedi colli tua 50 yn ardal Caerffili ers dechrau’r ymgyrch.
“Mae un pleidleisiwr yn Ystrad Mynach yn dweud ei bod hi wedi dweud wrth Wayne David ei bod hi eisiau cadw’r arwydd on ei fod wedi mynd â fo beth bynnag.”